Mike Phillips - gelyn newydd y Gwyddelod
Ifan Morgan Jones sy’n gofyn ai Cymru yw’r gelyn mawr newydd i dimoedd y Chwe Gwlad…
Wrth esbonio pam ei fod am barhau yn hyfforddwr ar Gymru hyd nes 2019, fe ddywedodd Warren Gatland nad oedd “am fod yn eistedd rhywle mewn 10 mlynedd yn gwylio Cymru yn cael eu maeddu o 30 neu 40 pwynt”.
Daeth Cymru yn agos iawn ar y trothwy hwnnw dros y penwythnos, â Warren Gatland yn eistedd yn sedd yr hyfforddwr yn Lansdowne Road.
Fe wnaeth Iwerddon i Gymru beth oedd y crysau cochion wedi ei wneud i Loegr yn ngêm olaf y Chwe Gwlad y llynedd.
Roedd llawer wedi ei ysgrifennu am y casineb honedig newydd rhwng Cymru ac Iwerddon cyn y gêm eleni – sy’n deillio o benderfyniad Undeb Rygbi Iwerddon i roi’r sach i Gatland yn 2001, penderfyniad Gatland i beidio â dewis Brian O’Driscoll yng ngêm olaf y Llewod yn Awstralia, ac ymryson parhaol timoedd rhanbarthol Cymru ac Iwerddon am frig y tabl yn y Gynghrair Geltaidd.
Ar ben hynny roedd y teimlad cyffredinol ymysg y Gwyddelod bod tîm Cymru a’u cefnogwyr yn ymffrostio’n ormodol yn eu llwyddiant, yn disgwyl ennill, ac nad oedden nhw cystal ag oedden nhw’n ei honni.
Hynny yw, roedd y Cymry yn cael eu cyhuddo o’r union yr un math o beth ac y mae’r Saeson wedi eu cyhuddo ohono dros y blynyddoedd – balchder a chymryd llwyddiant yn ganiataol!
Dyw’r cefnogwyr yma yn amlwg ddim yn deall rhyw lawer am seice’r Cymry, ond dyna ni.
Gellid dadlau bod tîm Cymru wedi dioddef o ganlyniad i’w llwyddiant eu hunain yn hynny o beth. Mae’n hawdd caru ein cefndryd Celtaidd – ar yr amod nad ydyn nhw’n rhy lwyddiannus!
Fel yr ydym ni’n gwybod mae Iwerddon yn dda iawn am godi eu gêm yn erbyn yr hen elyn, Lloegr, wrth chwarae gartref – mae’r 24 – 8 yn 2011 wrth i Loegr gwrso Camp Lawn, a’r 43 – 13 yn 2009 yn Croke Park yn dod i’r cof.
Yn anffodus eleni roedd eu llid wedi ei anelu at Gymru. Ni oedd Y Lloegr newydd, y tîm yr oedden nhw am eu maeddu fwyaf oll.
Yn anffodus i Iwerddon nid yw eu gallu nhw i godi eu gêm ar gyfer un ornest bwysig bob blwyddyn yn awgrymu fod ganddyn nhw’n gallu i fwrw ymlaen ac ennill y bencampwriaeth.
Er bod eu record nhw yn y Chwe Gwlad yn llawer gwell na Chymru – wedi ennill 47 gem o’i gymharu â 38 Cymru – dim ond unwaith y maen nhw erioed wedi codi’r gwpan.
Ffrainc yw’r maen tramgwydd – dydyn nhw heb guro Les Bleus ers 2009, a heb eu curo nhw yn Ffrainc ers y flwyddyn 2000. Ac yn y Stade de France mae’r ornest eto eleni.
Mae’r fath gysondeb gan Ffrainc yn dipyn o sioc o ystyried bod ganddyn nhw enw drwg am fod mor gyfnewidiol. Ond y gwir amdani, wrth edrych ar dablau’r Chwe Gwlad dros y blynyddoedd diwethaf, yw mai Cymru yw’r wlad fwyaf anghyson ohonyn nhw i gyd.
Rydym ni wedi gorffen ar hanner isa’r dabl mewn 10 o’r 14 pencampwriaeth hyd yma – ond yn 1af yn y bedair arall.
Efallai mai’r Ffrainc newydd yn hytrach na’r Lloegr newydd yw Cymru, felly – ac mae’n cynnig gobaith y byddwn ni’n ôl y flwyddyn nesaf.
Wedi’r cwbl fe gollodd Iwerddon yn erbyn yr Alban a’r Eidal y llynedd. Dyw llwyddiant yn y Chwe Gwlad un flwyddyn ddim yn sicrhau llwyddiant y flwyddyn nesaf – i’r gwrthwyneb, fel arfer. Does neb wedi gallu ennill fwy na dwy bencampwriaeth yn olynol.
Gobeithio y bydd chwalfa Cymru eleni yn eu hannog nhw ymlaen at bethau mawr yn 2015. Fel maeddu’r hen elyn gwreiddiol (Lloegr, nid Iwerddon) yn Twickenham yng Nghwpan Rygbi’r Byd!