Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi’r lluniau swyddogol cyntaf o grys oddi cartref newydd – gyda’r cefnogwyr yn siŵr o fod yn gobeithio mai ‘gwyn eu byd’ i’r tîm yw’r neges y tu ôl iddi.

Ar ôl lansio’r cit coch cartref yn yr hydref yn dilyn cytundeb newydd gyda’r gwneuthurwyr adidas, fe fydd y crys gwyn newydd i’w gael yn siopau JD Sports o ddiwedd mis Chwefror ymlaen.

Mae’r crys gwyn yn cymryd lle’r un hanner gwyrdd a hanner gwyn a wisgodd Cymru yn ystod eu hymgyrch ragbrofol ddiwethaf.

Ac un fydd o bosib yn gyfforddus iawn yn ei wisgo bydd seren Cymru Gareth Bale, sydd bellach yn gwisgo crys gwyn enwog Real Madrid ar ôl symud yno yn yr haf!

Bydd y crys ar gael yn swyddogol o 20 Chwefror ymlaen – tri diwrnod cyn i Gymru ddarganfod pa dimau fyddwn nhw’n wynebu yn eu hymgyrch 2016.

Ac fe fydd cefnogwyr hefyd yn cael y cyfle i gyfarfod rhai o chwaraewyr Cymru fydd yn bresennol mewn lansiad ar 3 Mawrth yn siop JD Sports yn Stryd y Frenhines, Caerdydd – dau ddiwrnod cyn i Gymru herio Gwlad yr Ia mewn gêm gyfeillgar.

“Mae’r lansiad yma’n amser cyffrous i ni i gyd ac rydym ni wrth ein bodd dod at ein gilydd gyda JD i gynnal digwyddiad mor addawol,” meddai Pennaeth Masnachol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Davis.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld y cefnogwyr yn JD yn gwisgo’r cit newydd.”

Beth wnewch chi o’r cit newydd?