Mike Phillips
Byddai rhai yn dweud nad yw hi’n beth doeth i herio’r chwaraewr rygbi Mike Phillips, gan ei fod o’n adnabyddus am ei dymer tanllyd. Ond dyma wnaeth un o aelodau’r band One Direction ar ôl gem Cymru ag Iwerddon ddydd Sadwrn.

Daeth sylw’r canwr Niall Horan ar ôl i Gymru golli o 26-3 yn erbyn Iwerddon – yn y perfformiad gwaethaf ers i Warren Gatland gymryd yr awenau, medd rhai.

Ym munudau olaf y gêm, roedd rhwystredigaeth Mike Phillips yn amlwg ac fe aeth hi’n ffrwgwd rhyngddo fo ac aelodau o dîm Iwerddon. Cael ei anfon i’r gell gosb oedd hanes y mewnwr gan adael Cymru yn chwarae hefo 14 dyn.

Ar ôl gwylio ymateb Phillips ar y cae, dywedodd Niall Horan ar ei gyfrif trydar bod “agwedd Phillips yn ofnadwy” a’i fod yn edrych fel “twpsyn trahaus” gyda’r sylw yn cael ei ail drydar 41,899 o weithiau.

Ac, fel y gwnaeth o ar y cae, ymateb yn danllyd wnaeth Phillips gan wahodd Horan i ddod i ymarfer efo’r tîm yn ystod yr wythnos – gan ychwanegu “a tyrd a gweddill y Beatles efo ti.”

Fe wnaeth Horan wrthod y cynnig.