Mae cystadleuaeth fawreddog ‘blogiau gwleidyddol gorau’ cylchgrawn Total Politics yn chwilio am enwebiadau eto eleni.
Mae’n bosib pleidleisio o blaid blogiau Cymraeg a’r llynedd roedd yna ddau flog Cymraeg yn deg uchaf ac un o’r rheini – Blogmenai – yn ail.
Mae yn erbyn y rheolau i flogwyr annog darllenwyr i bleidleisio am y naill flog neu’r llall ond wneith hi ddim drwg tynnu sylw at y blogwyr gwleidyddol sydd dal wrthi yn Gymraeg.
Un o’r newydd ddyfodiaid eleni sy’n debygol o gael ei gynnwys ar y rhestr yw Guto Dafydd, sydd wedi bod wrthi ers mis Hydref 2009.
Yn ogystal â hynny mae’r hen ffefrynnau Blogmenai, Blog Vaughan Roderick a’r Hen Rech Flin.
Mae Blog Answyddogol yn dal i fynd yn achlysurol, ac mae Rhys Llwyd hefyd yn trafod gwleidyddiaeth o dro i dro.
Yn anffodus mae Hogyn o Rachub, a, dybiwn i, blog Gwilym Euros wedi ein gadael ni.
Ydw i wedi methu rhywun?