Bydd Llywodraeth San Steffan yn cydweithio gyda gwefan Facebook er mwyn trafod syniadau newydd ynglŷn â thorri ar wario.

Mae gan y wefan 23 miliwn o ddefnyddwyr o Brydain ac mae wedi cytuno i’w holi nhw ynglŷn â syniadau ac i gynnal polau piniwn i weld pa mor boblogaidd yw rhai toriadau.

Mae tudalen ‘Spending Challenge’ gwefan Facebook yn adeiladu ar lwyddiant ‘Democracy UK’ a lansiwyd yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol.

Roedd y Prif Weinidog David Cameron wedi siarad gyda sylfaenydd Facebook Mark Zuckerberg ynglŷn â’r bartneriaeth yn gynharach yr wythnos hon.

Dywedodd y Llywodraeth y byddair syniadau “mwyaf difrifol” yn cael eu gyrru at swyddogion yn y Trysorlys ac adrannau eraill.

Yn y Gyllideb bythefnos yn ôl cyhoeddodd George Osborne y byddai bron i bob adran yn y llywodraeth yn gorfod torri cyfartaledd o 25% o’u cyllidebau.