Ifan Morgan Jones sy’n gofyn pam bod angen tair pleidlais fawr ar dri diwrnod gwahanol…
Dw i’n ddyn lwcus. Mae fy ngorsaf bleidleisio i, yng nghefn gwlad Ceredigion, yn llythrennol reit drws nesaf i fy nhŷ. Gobeithio nad ydi eich gorsaf bleidleisio chi yn rhy bell – yn enwedig ar ôl i’r TAW ar betrol gynyddu. Mae’n bosib y byddwch chi yn ymweld sawl gwaith dechrau’r flwyddyn nesaf.
Mae yna dair pleidlais fawr ar y gorwel. Y cyntaf fydd refferendwm ar fwy o bwerau ar gyfer y Cynulliad. Y gobaith oedd ei gynnal ym mis Hydref ond oherwydd diffyg amser mae o wedi ei wthio ymlaen i ddechrau’r flwyddyn nesaf.
Mae’r Cynulliad yn unfrydol yn erbyn cynnal y refferendwm hwnnw’r un diwrnod ag etholiad y Cynulliad ei hun, sydd i fod i gael ei gynnal ar 5 Mai’r flwyddyn nesaf.
Felly dyna ddwy bleidlais fawr i ddechrau.
Ond mae Llywodraeth Glymblaid newydd San Steffan wedi drysu pethau ymhellach gan ddweud eu bod nhw eisiau cynnal eu refferendwm eu hunain ar 5 Mai. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn benderfynol o gael refferendwm ar newid y sustem bleidleisio bryd hynny.
Ond dyw Llywodraeth y Cynulliad ddim yn hapus gyda hynny chwaith, ac wedi gofyn am gael gwthio eu hetholiad nhw ymlaen at fis Mehefin.
Mae hynny’n golygu eich bod chi am fynychu’ch capel lleol, neu ganolfan y pentref, yn llawer amlach y flwyddyn nesaf na wnaethoch chi’r flwyddyn hon. Tair gwaith, o fewn tair neu bedair mis.
Ac mae o hefyd yn golygu bod y cyfnod rhwng Nadolig a mis Mehefin y flwyddyn nesaf yn mynd i fod yn un ymgyrch ddi-baid gan wleidyddion.
Her logistaidd
Mae’n amlwg yn amhosib cynnal y refferendwm ar fwy o bwerau i’r Cynulliad ac Etholiad y Cynulliad ar yr un diwrnod.
Mae angen i’r gwleidyddion o bob plaid fod ‘llaw yn llaw’ er mwyn ennill y cyntaf ac yng ngyddfau’i gilydd ar gyfer yr ail.
Dydi o ddim yn deg gofyn i bobol bleidleisio ynglŷn â pha blaid fydd yn eu cynrychioli nhw yn y Cynulliad heb wybod faint o bwerau fydd ganddo, chwaith, wrth gwrs.
Ond, yn bersonol, alla’i ddim gweld pam na ellid cynnal y refferendwm ar ddiwygio’r sustem bleidleisio ar yr un diwrnod ac Etholiad y Cynulliad.
Dim ond 43.7% o bobol Cymru wnaeth drafferthu pleidleisio yn Etholiad Cynulliad 2007. Does dim disgwyl y byddai lot fawr yn pleidleisio yn y refferendwm ar newid y sustem bleidleisio, chwaith.
Ond efallai, gyda’i gilydd, fe fyddai yna ddigon o bobol gyda diddordeb yn y ddau bwnc fel bod y nifer sy’n pleidleisio yn cyrraedd 50%, o leiaf.
Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones ar y radio ddoe yn dadlau y byddai’n ormod o her logistaidd cynnal dwy bleidlais yr un pryd, ac na fyddai amser i gyfri’r holl bleidleisiau’r un noson.
Ond a oes angen cyfri pleidleisiau’r refferendwm ar ddiwygio’r sustem bleidleisio ar yr un noson? Fydd y canlyniad ddim o bwys am bedair blynedd arall, tan Etholiad Cyffredinol 2015.
Fe fyddai eu cynnal nhw’r un diwrnod hefyd yn safio costau cynnal dau etholiad ar wahân. Ac, ar ben hynny, dim ond dwywaith fyddai’n rhaid i chi fynd i lawr i’r blwch pleidleisio o fewn tair mis.
Y wasg
Un dadl yn erbyn cynnal y ddau bleidlais yr un pryd yw mai ymgyrch Etholiad y Cynulliad ydi diwrnod gwleidyddiaeth Cymru yn yr haul. Dyma’r unig gyfnod y mae sylw’r wasg ar y Cynulliad a ddim ar beth sy’n digwydd dros y ffin yn Lloegr.
Dyna pam oedd Plaid Cymru yn gwrthwynebu cynnal Etholiad Cynulliad ac Etholiad Cyffredinol 2015 ar yr un diwrnod.
Mae’r ddadl yn dal dŵr i raddau – fyddai Etholiad y Cynulliad ddim yn cael mymryn o sylw gan y wasg Brydeinig pe bai yna Etholiad Cyffredinol yn cael ei chynnal yr un pryd.
Ond mae hynny’n cymryd yn ganiataol y bydd y wasg Brydeinig yn rhoi mymryn o sylw i Etholiad y Cynulliad beth bynnag.
A dwi’n amau ei fod o hefyd yn gor-ddweud faint o sylw fydd y refferendwm ar ddiwygio’r sustem bleidleisio yn ei gael hefyd.
Faint o bobol sy’n gwybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng y ddwy sustem a faint sy’n malio digon i roi croes yn y blwch?
Fel y dywedodd Carwyn Jones ei hun ddoe, mae cefnogwyr diwygio’r sustem bleidleisio yn gobeithio ei drefnu’r un diwrnod ag Etholiad y Cynulliad er mwyn hybu eu niferoedd pleidleisio nhw.
Mae hynny’n dweud lot.
(Gyda llaw, fy mhroffwydoliaeth i yw Ie, Na ac Enfys)
Diweddariad: Mwy ar y pwnc yma gan Blogmenai a Guto Dafydd)