Mae Heddlu De Cymru wedi cyfeirio eu hunain at Gomisiwn Cwynion Annibynol yr Heddlu ar ôl saethu at ddyn.
Cafodd yr heddlu eu galw allan am 1.32am bore heddiw i Gwrt y Garth, Beddau, Pontypridd.
Saethodd un o’r heddlu arfog oedd yno a dioddefodd dyn 24 oed fân anafiadau. Mae o wedi ei arestio a’i gadw yn y ddalfa tra bod yr heddlu’n ymchwilio.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi cyfeirio’r mater at Gomisiwn Cwynion Annibynol yr Heddlu a does dim mwy o wybodaeth ar gael ar hyn o bryd.