Mae ITV newydd gyhoeddi canlyniadau cyntaf arolwg barn newydd, fydd yn datgelu bwriadau pleidleisio’r Cymry ar refferendwm pwerau deddfu ac yn etholiadau’r Cynulliad yn fisol, ynghyd ag ymateb i gwestiwn amserol gwahanol bob mis.
Os yw’r arolwg yma’n arwydd o’r hyn sydd i ddod, gallai Llafur ffurfio llywodraeth fwyafrif ar ol yr etholiad flwyddyn nesaf, gyda 42% yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio dros ymgeisydd Llafur ei hetholaeth, a 40% yn dweud mai Llafur fyddai eu dewis nhw ar y rhestr ranbarthol yn 2011 hefyd. Mae hyn o gymharu ag ymateb o 32% yn dewis Llafur yn yr etholaeth a 30% yn dewis Llafur yn y rhanbarth yn 2007. Mae’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn hofran o amgylch y marc 20% nawr fel yn 2007 gan golli rhywfaint o gefnogaeth ond y Democratiaid Rhyddfrydol sydd fwyaf ar eu colled os yw’r arolwg i’w gredu. Fe fyddan nhw’n dweud mai’r unig arolwg sy’n cyfri yw’r bleidlais ei hunan, ond allan nhw ddim bod yn hapus mai 12% sy’n dweud y bydden nhw’n pleidleisio drostyn nhw yn yr etholaeth wedi llwyddo i gael 20% yn mynegi bwriadu i’w cefnogi dim ond ychydig ddyddiau cyn yr etholiad cyffredinol ym Mai.
O ran y refferendwm, mae pethau’n argoeli’n dda i’r ymgyrch Ie, gyda thwf sydyn iawn mewn cefnogaeth i refferendwm ers mis Ebrill. Yn ol yr arolwg, mae cefnogaeth i gynyddu pwerau deddfu i fyny i 55%, o 49% yn Ebrill. Mae’r rhai sy’n bwriadu pleidleisio na lawr i 28%. Mae 17% un ai a dim diddordeb mewn pleidleisio neu ddim yn gwybod beth i’w wneud. Bydd rhain yn darged clir i’r ddwy garfan felly.
Dyma’r manylion i gyd:
Arolwg Barn ITV YouGov
Canlyniad arolwg 28-30 Mehefin 2010. Sampl: 1001.
Bwriadau pleidleisio ( o gymharu ag etholiad 2007 ac arolwg 3-4 Mai 2010.
Pe bai etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yfory, gan ystyried y bleidlais etholaethol, sut fyddech chi’n pleidleisio?
Etholiad 2007 Arolwg Mai 2010 Arolwg Mehefin 2010
Llafur 32% 32% 42%
Plaid Cymru 22% 22% 20%
Ceidwadwyr 22% 21% 19%
Dem. Rhydd 15% 20% 12%
Eraill 8% 5% 6%
Gan ystyried y bleidlais ranbarthol neu bleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dros ba blaid fyddech chi’n pleidleisio?
Etholiad 2007 Arolwg Mai 2010 Arolwg Mehefin 2010
Llafur 30% 30% 40%
Plaid Cymru 21% 21% 19%
Ceidwadwyr 22% 21% 20%
Dem. Rhydd 12% 18% 12%
Eraill 16% 9% 9%
Bwriadau Pleidleisio yn y Refferendwm (o gymharu ag arolwg barn o 16-19 Ebrill 2010).
Pe bai refferendwm yfory ar gynyddu pwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sut fyddech chi’n pleidleisio?
Arolwg Ebrill 2010 Arolwg Mehefin 2010
Ie 49% 55%
Na 33% 28%
Ddim yn Gwybod/ 18% 17%
Ddim am bleidleisio
Mae George Osborne, Canghellor y Trysorlys, wedi datgelu ei gyllideb gyntaf. Fe gyhoeddodd toriadau mewn gwariant a chynydd mewn trethi er mwyn lleihau lefel benthyca’r Llywodraeth. Ydych chi’n meddwl…? Arolwg Mehefin 2010
Ei fod wedi mynd yn rhy bell er mwyn lleihau’r ddyled 43%
Ei fod e wedi ei gael e’n iawn 36%
Nad yw e wedi mynd yn ddigon pell i leihau’r ddyled 8%
Ddim yn gwybod 13%