Mae cynghorwyr sir Ceredigion wedi pleidleisio o blaid yr egwyddor o gau holl ysgolion gwledig ardal Llandysul ac agor un ysgol ar gyfer plant rhwng 3 ac 19 oed.

Roedd ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu’r cynllun wedi protestio tu allan i swyddfeydd yr awdurdod yn Aberaeron cyn y cyfarfod, ac maen nhw wedi dweud nawr y byddant yn anfon cwyn swyddogol at Weinidog Addysg y Cynulliad, Leighton Andrews.

Yn ôl Angharad Clwyd o Gymdeithas yr Iaith, maen nhw am gwyno am y modd “hollol annemocrataidd y cymerwyd y penderfyniad.”

“Nid yn unig mai’r cabinet yn unig a oedd yn cael penderfynu ar y mater, ond fe wnaeth y swyddogion addysg gyflwyno cais am arian i’r Cynulliad ar gyfer ysgol 3-19 oed i Landysul ym mis Mai cyn i’r cabinet hyd yn oed gwrdd i drafod y mater.

“Mae hyn yn gwneud nonsens llwyr o ddemocratiaeth. Ni ymchwiliwyd i mewn i’r opsiwn sydd yn cael ei ffafrio gan y cymunedau lleol mewn unrhyw fanylder gan y swyddogion ac fe anwybyddwyd eu llais yn llwyr.”

Ffederal

Mae cynlluniau’r Cyngor yn golygu cau ysgolion cynradd Coed y Bryn, Capel Cynon, Aberbanc, Pontsian a Llandysul, yn ogystal ag Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi.

Yn ôl yr ymgyrchwyr, dyw swyddogion y cyngor ddim wedi bod yn barod i ystyried syniadau eraill – mae’r ymgyrchwyr yn cynnig y dylid cadw’r ysgolion cynradd ar agor drwy drefn ffederal, ynghyd â rhoi safle newydd i Ysgol Dyffryn Teifi.

Tregaron

Mae’r Cyngor wedi dweud y bydd y cabinet yn cyfarfod ar 6 Gorffennaf i dderbyn adborth ac i ymgynghori “yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol”, ynglŷn â pharhau â’r cynllun i gau’r ysgolion.

Bydd y Cyngor hefyd yn ystyried amcanion i sefydlu’r un fath o drefn yn ardal Tregaron.