Mae dwy o brifysgolion lleiaf Cymru yn hyderus eu bod nhw’n gallu ymateb i’r her i greu sefydliadau addysg uwch mwy o faint yng Nghymru – ac mae’r cynllunio eisoes ar waith.
Dywed y Gweinidog Addysg Leighton Andrews ei bod hi’n bwysig fod sefydliadau addysg uwch Cymru yn newid yn gyflym ac yn cefnogi’r economi Gymreig.
Prifysgol Glyndŵr : Ehangu ar y gweill
“Prifysgol Glyndŵr yw’r brifysgol sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru yn ôl ystadegau’r Cyngor Cyllido ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer ehangu sylweddol,” meddai swyddog o adran y wasg wrth Golwg360.
Fe ddywed y Brifysgol fod y Gweinidog wedi “amlinellu’n glir mewn nifer o ddogfennau a datganiadau yr hyn y mae’n ei ddisgwyl gan brifysgolion yng Nghymru.
Mae Prifysgol Glyndŵr “wedi ymateb i’r gofynion hynny ac mewn rhai achosion rydym yn arwain y ffordd yng Nghymru.”
Ymateb y Drindod : cynlluniau ar y gweill
Eisoes, mae cynlluniau ar y gweill i uno chwech o sefydliadau addysg uwch de orllewin Cymru. Fe fydd Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod yn uno ym mis Medi. Yna mae bwriad i’r sefydliad newydd ( Prifysgol Cymru : y Drindod Dewi Sant uno gyda Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, Coleg Sir Benfro, Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.
Wrth siarad am yr “heriau strategol mawr” sy’n wynebu addysg uwch fe ddywedodd Dr Medwin Hughes, Darpar Is-ganghellor Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant fod yr “amser yn briodol i sefydlu isadeiledd addysgol newydd fydd yn trawsnewid tirwedd addysg.”
Mae’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi dweud ei bod hi’n bwysig fod sefydliadau addysg uwch Cymru yn newid yn gyflym ac yn cefnogi’r economi Gymreig.
Gwleidyddion yn amheus
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn amheus o’r cynlluniau.
“Rwy’n croesawu’r ffaith fod y Gweinidog eisiau codi lefelau incwm prifysgolion Cymru ond mae’n rhaid gwneud yn siŵr fod dewis eang o bynciau ar gael i fyfyrwyr o hyd,” meddai llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Addysg, Paul Davies, A.C.
Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol fod angen i addysg uwch addasu gan fod amgylchiadau yn newid yn gyflym.
“Ond dyw mwy ddim bob tro yn golygu gwell,” meddai Jenny Randerson, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
LLUN: Prifysgol Glyndŵr