Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn credu mai plismones a dau o’i phlant a fu farw mewn tan tŷ yn Ynys Môn, bore ‘ma.

Credir mai cyrff y Ditectif Cwnstabl Heather Bickley, 46 a’i dau fab 10 a chwech oed a gafodd eu darganfod yn eu cartref yng Nhynygongl ger Marian-glas.

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n cynnal ymchwiliad ar y cyd i ganfod achos y tân.

Dywedodd y llu fod gŵr Heather Bickley, John, yn cael cefnogaeth gan gyfeillion, teulu ac arbenigwr proffesiynol.