Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi bod yn achub pysgod o nifer o afonydd Cymru ar ôl y tywydd sych gan gynnwys 500 yn ardal Caerdydd ond mae pysgod yn marw ar draws Cymru hefyd.

Achubwyd 500 o bysgod o Ddoc Melingriffith yng Nghaerdydd lle mae’r pysgod yn ei chael hi’n anodd i aros yn fyw oherwydd lefelau’r dŵr. Fe gawson nhw eu rhyddhau i’r
Afon Taf.

Pysgod yn marw mewn rhannau eraill o Gymru

“Mae’r tywydd sych yn golygu fod lefelau afonydd ledled Cymru llawer yn is nag arfer,” meddai Alun Attwood, Rheolwr Sychder Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

“Mewn rhai mannau rydym wedi gorfod delio ag achosion amgylcheddol eithaf difrifol megis pysgod yn marw o ganlyniad i ansawdd dwr gwael a diffyg llif.

“Rydym yn monitro nifer o afonydd ledled Cymru ac fe fydden ni’n delio â mwy o ddigwyddiadau os fydd y tywydd sych yn parhau.

“Rydan ni’n galw ar bobl a busnesau i fod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio’r dŵr gan y bydd pob diferyn yn hanfodol dros yr haf.”

LLUN: Sychder, Flikr, Twbuckner