Mae’r Ceidwadwr hawddgar David Melding wedi cynnig ei enw i fod yn ymgeisydd y Ceidwadwyr yn etholaeth Bro Morgannwg yn etholiad nesaf y Ceidwadwyr. Mae’n gobeithio “adeiladu ar lwyddiant Alun Cairns.” Mae wedi sefyll yn y sedd hon y gorffennol, cyn i’r rheolau newid a bod dim hawl i sefyll ar restr rhanbarth ac etholaeth ar yr un pryd.
Y Gweinidog Busnes a Chyllid, Jane Hutt sydd yn cynrychioli’r sedd ar hyn o bryd, ac mae hi yno ers y dechrau un yn 1999. Er hyn, dim ond 83 pleidlais oedd rhyngddi hi a’r Ceidwadwr Gordon Kemp yn etholiad 2007. Mae’n risg i David Melding i ildio’i sedd saff ar restr y Ceidwadwyr yng Nghanol De Cymru ond mae e’n ddigon hyderus y gall y Ceidwadwyr ennill y Fro fel ei fod am roi ei enw yn yr het.