Mae Gwir Gymru wedi eu beirniadu dros yr wythnosau diwethaf am beidio â mynd i’r afael â’r gwir resymau dros gynnal refferendwm.
Ymgyrch ar roi pwerau deddfu cynradd i‘r Cynulliad yw hwn, meddai’r ymgyrch ‘Ie’. Ond mae Gwir Gymru yn benderfynol o ymosod ar record Llywodraeth y Cynulliad a dweud mai llwybr llithrig tuag at annibyniaeth fyddai pleidlais o blaid.
Trwsio gwendid o fewn y system bresennol fyddai pleidlais ‘Ie’, meddai ymgyrch Roger Lewis, gydag amynedd oedolyn yn siarad â phlentyn ystyfnig. Ac fe fydd cyfle i bleidleisio o blaid neu yn erbyn y llywodraeth bresennol ar 5 Mai.
Ond er bod Gwir Gymru yn haeddu rywfaint o feirniadaeth am gam-liwio pwrpas y refferendwm ddydd Iau, dw i’n teimlo nad ydi eu dadleuon nhw yn gwbl amherthnasol i’r refferendwm chwaith.
Beth bynnag y mae’r ymgyrch ‘Ie’ yn ei ddadlau, fe fydd pleidlais o blaid rhagor o bwerau deddfu i’r Cynulliad yn gwneud annibyniaeth ar ryw ben yn y dyfodol yn fwy tebygol. Fel yr ydym ni wedi ei weld yn yr Alban, mae rhagor o ddatganoli yn arwain at fwy o hyder ymysg poblogaeth gwlad eu bod nhw’n ddigon abl i reoli eu materion eu hunain. Ar ôl degawd o’r gallu i greu eu deddfau eu hunain mae pleidiau Senedd yr Alban yn barod i wthio am ‘Devolution Max’ – plisgyn chwannen i ffwrdd o annibyniaeth. Efallai nad yw’n ‘lwybr llithrig’ – chwedl Gwir Gymru – ond mae’r llwybr yn sicr yn mynd i un cyfeiriad yn unig, ac mae haenen denau o rew arno.
Gellid hefyd dadlau ei bod hi’n ddigon teg ymosod ar record Llywodraeth y Cynulliad, os oes yna wendidau o fewn y Cynulliad sy’n golygu nad yw’r llywodraeth gystal ag y gallai fod. Ydi’r pwll o dalent y mae’r Cynulliad yn denu gwleidyddion ohono gystal â Llywodraeth San Steffan? Hyd yn oed os oes modd cael gwared ar Lywodraeth y Cynulliad ar 5 Mai, pa mor dda yw’r dewis amgen? Ydi statws eilradd y Cynulliad o’i gymharu â San Steffan yn golygu ein bod ni’n cael y gwleidyddion ail-orau o hyd? Ac yn y blaen ac yn y blaen.
Wrth gwrs, fe fyddai rhai pobol yn dadlau bod yr gwendidau uchod yn y Cynulliad yn ddadl o blaid rhagor o ddatganoli. Ond dyna’r llwybr llithrig ar waith unwaith eto…