Menna Machreth, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy’n ymateb i awgrym Llywodraeth San Steffan y dylai pobol di-waith symud i ardaloedd eraill i chwilio am waith…

Ar ôl yr holl sôn am y ‘big society’, mae gwir liwiau’r Toriaid yn dod i’r amlwg bellach. Cyhoeddodd Iain Ducan Smith fwriadau Llywodraeth San Steffan eu bod am gymell pobl di-waith i symud i ardaloedd hollol wahanol er mwyn gwneud gweithlu Prydain yn llai ‘statig’ gyda’r nod o ryddhau’r bobol sydd dan ‘glo’ mewn gwahanol leoliadau. Ac fel arfer, mae’r hyn sy’n gynllun arloesol i’r Toriaid yn dwyn canlyniadau difäol i gymunedau Cymraeg.

Gwasanaethu’r sector breifat drwy symud pobol yw egwyddor y Toriaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn hytrach na chynllunio economi yn ôl gofynion cymunedau. Mae hwn yn bolisi annheg ble bynnag y caiff ei weithredu; ni ddylai neb orfod symud a gadael teulu, ffrindiau a chymuned oherwydd bod y llywodraeth yn rhy gaeedig i gynllunio ar eu cyfer.

Mae’n dorcalonnus gweld cyflwr rhai cymunedau Cymraeg a’r diffyg cyfleon gwaith sy’n golygu tlodi ac yn y diwedd allfudo. Yr allfudo mawr yma sy’n golygu bod ein cymunedau ni ar eu gliniau yn gymdeithasol ac yn ieithyddol, ac o ganlyniad mae niferoedd y plant yn yr ysgolion yn disgyn.

Cymrwch bentref fel Deiniolen lle mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg ond canran uchel o ddiweithdra hefyd.  O symud pobl ifanc i ffwrdd i leoliad arall, ni fydd unrhyw obaith am adfywiad cymunedol ond yn hytrach bydd cymunedau yn cael eu hamddifadu o bobol ifanc, ac felly bydd yr iaith Gymraeg yn dioddef hefyd. Yn rhy aml, mae pobol yn tueddu i anwybyddu’r cysylltiad rhwng cyfiawnder cymdeithasol a dyfodol yr iaith Gymraeg. Ond, mae’n gliriach nac erioed nad oes modd gwahanu’r ddau beth. Mae diogelu incwm bobol mewn ardaloedd fel Peblig, Pontyberem a Blaenau Ffestiniog yn rhan annatod o sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg. Mae pob ymosodiad gan y Llywodraeth bresennol ar y tlawd yn ymosodiad ar gymunedau Cymraeg hefyd.

Rydym ni wedi cymharu’r sefyllfa â chwalu cymunedau iaith Gwyddeleg pan fu allfudo mawr yn y 19eg ganrif. Wrth gwrs, dyw Iain Duncan Smith ddim eisiau achosi newyn yng Nghymru, ond dyma enghraifft o bolisi economaidd bwriadol o symud pobol a sut y gall hynny gael effaith ar gymunedau Cymraeg. Ein galwad ni yw cymunedau rhydd, nid marchnad rydd. Os yw’r Gymraeg i fyw, rhaid i bopeth newid – gan gynnwys polisi economaidd.

Nid ydym yn aberthu llwyddiant economaidd drwy wrthod y syniad hwn. Na, mae’r hyn sy’n dda i’r iaith hefyd yn dda i gynnal bywyd ein cymunedau yn gyffredinol ac yn rhoi ansawdd i fywydau pobol.

Dyma yw sail syniad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfer ‘cymunedau Cymraeg cynaliadwy’. Rydym ni eisiau gweld cymunedau yn pweru eu hunain ac yn penderfynu dros eu hunain beth fydd eu dyfodol. Mae cymuned Penllyn eisoes wedi ymgymryd â hyn a llunio cynllun adfywio sy’n dweud sut hoffen nhw gynnal a datblygu eu cymunedau. Yr her yng Nghymru yw gwneud yn siŵr nad ydyn ni’n dilyn llwybr Lloegr o wasanaethu’r sector breifat a mabwysiadu meddylfryd biwrocrataidd, adrannol sy’n llwyr anghydnaws ac anghenion y gymuned. Dydyn ni ddim yn gallu edrych ar ysgol, economi, trafnidiaeth, tai, diwylliant, canolfannau cymunedol, amgylchedd ar wahân oherwydd maen nhw oll yn dod at ei gilydd i greu’r gymuned rydyn ni’n byw ynddi ac yn gyd-ddibynnol ar ei gilydd. Cyfrwng yw iaith, ac mae eisiau i bethau ddigwydd drwy gyfrwng ein hiaith ni fel y pethau uchod er mwyn i adfywiad iaith ddod law yn llaw ag adfywiad cymunedol. Does dim diben trafod y ddau beth ar wahân.

Mae’n bosib fod y Ceidwadwyr wedi gallu cuddio dan rith y ‘Big Society’, ond mae’r gwir am eu polisïau economaidd yn dangos nad ydynt wedi newid o gwbl. Rhaid i ni beidio â gadael i ddifaterwch adael i ni golli gafael ar ein cymunedau, ond defnyddio ein tafodau i’w gwneud yn gynaliadwy.