Mae cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol wedi disgyn yn sylweddol yn dilyn y Gyllideb Argyfwng yr wythnos diwethaf, yn ôl pôl piniwn a gyhoeddwyd heddiw.

Disgynnodd cefnogaeth y blaid o 23% i 18% ers pôl piniwn tebyg ar 20 Mehefin, yn ôl arolwg ComRes gan bapur newydd The Independent.

Ond mae cefnogaeth eu partneriaid yn y glymblaid, y Ceidwadwyr, wedi cynyddu o 36% i 40% dros yr un cyfnod.

Cynyddodd poblogrwydd y Blaid Lafur un y cant i 31%.

Yn y Gyllideb yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd George Osborne toriadau anferth mewn gwario cyhoeddus a chynnydd mewn treth.

Mae tensiynau rhwng y Llywodraeth ac ASau meinciau ôl y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynyddu yn sgil y Gyllideb.

Yn ôl ComRes, dim ond 68% o’r rheini ddywedodd y bydden eu bod nhw wedi pleidleisio o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol yn Etholiad Cyffredinol mis Mai fyddai’n gwneud hynny heddiw.

Roedd yr arolwg yn awgrymu y byddai eu cefnogaeth nhw’n fwy tebygol o fynd i Lafur nag i’r Ceidwadwr.

Holodd ComRes 1,003 o oedolion ar hap rhwng 25 a 27 Mehefin.