Bu’n rhaid cau’r M4 am gyfnod byr yn oriau man y bore heddiw ar ôl i ddyn ar bont fygwth niweidio ei hun.

Cafodd y gwasanaeth ambiwlans a’r heddlu eu galw i bont cyffordd 36 yr M4 ger Pen y Bont ar Ogwr toc cyn un o’r gloch y bore.

Agorwyd yr M4 drachefn ar ôl i’r dyn lleol 21 oed gael ei gymryd oddi yno ar gyfer asesiad iechyd meddwl.

Diolchodd Heddlu De Cymru i yrwyr am eu cydweithrediad.