Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Hywel Wyn Edwards, sy’n gweld pethau’n siapio ar faes Eisteddfod Blaenau Gwent…
Ddydd Mercher, cynhaliwyd yr olaf mewn cyfres o deithiau tywys ar gyfer y wasg a’r cyfryngau o amgylch ardal Blaenau Gwent. Bwriad y teithiau hyn oedd rhoi cyfle i’r wasg a’r cyfryngau ddod i ddysgu mwy am yr ardal, i gael syniadau am straeon i’w rhedeg cyn yr Eisteddfod ac am leoliadau i’w defnyddio ar gyfer rhaglenni’n ystod yr wythnos. Gyda’r tywydd yn fendigedig, roedd yn gyfle i weld Blaenau Gwent ar ei gorau, ac i ddysgu mwy am ardal ddiddorol iawn. A phwy well i arwain y daith na Frank Olding, Swyddog Treftadaeth Cyngor Blaenau Gwent, sydd nid yn unig yn arbenigwr ar yr ardal ond hefyd yn llwyddo i gyflwyno’i wybodaeth mewn ffordd arbennig o ddiddorol a hwyliog.
Mae nifer ohonom wedi cael cyfle i fynd ar y daith, ac wedi mwynhau’r cyfle i ddysgu mwy am yr ardal, yn arbennig am rai o’r cysylltiadau rhwng Blaenau Gwent a’r Eisteddfod. A wyddoch chi i Crwys fod yn weinidog ar gapel Reheboth ym Mrynmawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac i Ieuan Gwynedd hefyd ofalu am gapel yr annibynnwyr yn Nhredegar, cyn troi’i gefn ar y weinidogaeth a mynd ati i newyddiadura? Roedd Myfyr Wyn yn fardd arall o’r ardal, ac yn un a fu’n cynganeddu’n yr efail yn ngwaith haearn Sirhowy, gyda’i englynion yn gorchuddio pob talp o haearn yn yr efail.
Tan i ni fynd ar y daith ddiddorol hon, ychydig ohonom a wyddai mai Brynmawr yw’r dref uchaf yng Nghymru, a’r ail uchaf drwy’r DU, a doedden ni hefyd ddim yn sylweddoli bod haearn lleol o ardal yr Eisteddfod eleni wedi’i ddefnyddio wrth adeiladu’r bont enwog yn Harbwr Sydney – dyma ddolen arall ddiddorol rhwng Cymru ac Awstralia yn ystod wythnos pan ddaeth merch o’r Barri’n brif weinidog ar y wlad.
Y tylwyth teg, neu Bendith Mam fel y’u gelwir ganddo yw un o ddiddordebau Frank, a diddorol oedd cael clywed rhai o’i straeon am y dyn a fu’n dawnsio gyda’r tylwyth teg am flwyddyn yn ddi-stop yn lleol, ac am gwn annwn sydd yn crwydro’r ardal – a’r brif ffordd o Abertyleri tuag at Lyn Ebwy – ffordd y byddwn ni’n ei defnyddio fel rhan o’r cynllun traffig, felly os welwch chi anifail mawr dieithr a dieflig yr olwg yn llamu heibio’ch car pan fyddwch ar eich ffordd i’r Brifwyl…
Roedd Parc Bryn Bach, cartref Maes C a’r maes carafanau swyddogol yn edrych yn hyfryd, a gobeithio’n arw y cawn dywydd tebyg i’r wythnos hon ddechrau Awst, gan fod y Cyngor yn bwriadu rhedeg nifer o weithgareddau arbennig yn y Parc yn ystod yr Eisteddfod, a bydd rhagor o fanylion am y rhain yn fuan.
Bydd Frank yn lansio cyfrol arbennig am lên gwerin Blaenau Gwent yn y Babell Lên, brynhawn Sadwrn 31 Gorffennaf am 13.00 – ac fe fydden ni’n annog pawb i geisio mynd i’r sesiwn hon, neu i brynu’r llyfr, gan y bydd yn sicr yn werth clywed mwy o’r straeon a darllen ei lyfr.
Taith hynod ddiddorol, a dwy awr yn pasio’n gyflym iawn. Daeth y cyfan i ben gyda chyfle i fynd i’r Maes i weld sut mae pethau’n siapio. Mae sgerbydau rhai o’r adeiladau i fyny’n barod, a’r wythnos hon, dechreuwyd ar y gwaith o roi to uwchben y gofod tanddaearol a fydd yn gartref i arddangosfa Y Lle Celf eleni. Mae hyn yn adeg cyffrous iawn a newidiadau amlwg i’w gweld ar y Maes o ddydd i ddydd.
Yr wythnos nesaf bydd y Pafiliwn yn cael ei godi, a bydd Blaenau Gwent yn cael gweld y babell fawr binc am y tro cyntaf, sy’n sicr o ennyn diddordeb ac o fod yn bwnc ambell sgwrs yn lleol dros yr wythnosau nesaf. Ymhen dim, bydd hi’n bryd i ninnau hel ein pac a symud i’r Maes i weithio – a braf oedd gweld bod sgerbwd swyddfa’r Eisteddfod eisoes wedi’i godi!