Mae rhan o’r bont sy’n croesi afon Dyfi ger Machynlleth wedi disgyn i’r afon.

Cysylltodd llygad dyst gyda Golwg 360 i ddweud bod ochor orllewinol y bont wedi disgyn i’r afon yn llwyr.

Mae’n debyg bod cwt lori wedi taro wal y bont am 8.43am ac mai dyna sy’n gyfrifol am y difrod.

Yn ol Cyngor Sir Powys mae’r bont, ar yr A487, bellach wedi ei gau.

“Mae yna ddifrod  adeileddol i’r wal ond dydan ni ddim yn gwybod faint o ddifrod sydd wedi ei wneud eto,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor. “Mae yna beirianyddion ar y ffordd i ymchwilio.”

Roedd fan plismon yno ynghynt ac roedd rhai ceir wedi cael croesi cyn iddyn nhw ei gau.