Ifan Morgan Jones sy’n dweud nad yw’r Lleuad yn bwysig tan fod gwledydd yn datrys problemau sylfaenol ar y Ddaear…

Pam bod India yn chwilio am ddŵr glân ar y lleuad pam nad oes digon i’w gael ar gyfer ei phobol ei hun?

Mae’r Llywodraeth wedi gwario £49 miliwn ar y lloeren Chandrayaan-1 a ddaeth o hyd i’r dŵr, a hynny ar gefn prosiect gofod sy’n costio biliynau.

Yn y cyfamser, dim ond 8 dinas yn India, allan o dros 3,000, sydd â chyfleusterau er mwyn trin carthffosiaeth.

Mae 114 dinas yn gollwng eu gwastraff yn syth i mewn i afon Ganges – afon sy’n cael ei hystyried yn sanctaidd ac yn cael ei defnyddio ar gyfer ymolchi ac yfed.

Mae’r Ganges yn ddu mewn rhai mannau, ac yn llawn cyrff anifeiliaid a hyd yn oed cyrff pobol.

Ar yr un pryd mae China yn bwrw ymlaen gyda’i rhaglen ofod hithau. Mae gorsaf lansio Xichang – Cape Canaveral China – yn cael ei hegni yn rhannol o gyfres o argaeau i’r Gorllewin sydd wedi boddi dyffrynnoedd anferth.

Cafodd rywfaint o’r dinistr a achoswyd gan adeiladu’r argaeau ei gofnodi gan y ffotograffydd o Gymro, Rhodri Jones, ar ymweliad â China a’u cyhoeddi mewn llyfr ganddo.

Mae ein cwynion ni am Dryweryn yn ymddangos yn bitw iawn o’i gymharu â “Tryweryn Tibet”, fel y mae Rhodri yn ei alw.

Mae archwilio’r gofod a rhoi pobol yn ôl ar y Lleuad yn brosiectau pwysig – ond mi ddylai gael ei wneud am y rhesymau cywir.

Dylai gwledydd fod eisiau mynd i’r gofod er mwyn cynyddu dealltwriaeth y ddynoliaeth o’r bydysawd, nid er mwyn dangos eu hunain i weddill y gymuned ryngwladol.

Efallai mai economi China a’r India sy’n tyfu gyflymaf yn y byd. Ond tan eu bod nhw’n medru edrych ar ôl eu pobol ar y Ddaear, dyw’r Lleuad ddim yn bwysig.