Mae gwyddonwyr wedi canfod rhywogaeth newydd o ddinosor gyda phlu – tystiolaeth gadarn, medden nhw, bod y creaduriaid cynhanesyddol wedi esblygu i mewn i adar.

Mae plu gan bob un o’r ffosilau newydd o ogledd-ddwyrain China, a fydd yn cael eu datgelu am y tro cyntaf heddiw, a hynny’n dangos y ‘cysylltiad coll’ rhwng dinosoriaid ac adar.

Dywedodd y gwyddonwyr o China sydd wedi astudio’r ffosilau eu bod nhw’n hŷn na’r archaeopteryx, ffosil aderyn a oedd wedi awgrymu’r cysylltiad yn y lle cyntaf.

Tan hyn, roedd ddiffyg ffosilau hŷn gyda phlu wedi bod yn faen tramgwydd i’r ddamcaniaeth am y cysylltiad.

“Mae’r ffosilau hynod yma’n cynnig tystiolaeth sydd wedi bod ar goll tan nawr,” meddai Dr Xu Xing, un o’r gwyddonwyr sy’n gyfrifol am y darganfyddiad.

Roedd yr Archaeopteryx yn byw 150 i 145 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ond mae’r ffosilau yma’n dyddio o 168 i 151 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

“Mae’r ffosilau yn cefnogi’r ddamcaniaeth bod adar yn ddisgynyddion i’r dinosoriaid ‘Theropoda’, sy’n cynnwys yr allosaurus a’r velocirator,” meddai Xu Xing.