Mae Iran wedi cyfaddef bod ganddyn nhw ail ffatri sy’n cyfoethogi wraniwm ar gyfer y diwydiant niwclear.

Datgelodd Llywodraeth y wlad yr wybodaeth mewn llythyr at bennaeth yr Asiantaeth Ynni Atomig, Mohamed ElBaradei.

Yn y gorffennol roedd Iran wedi dweud mai un ffatri oedd ond maen nhw’n dod dan bwysau cynyddol ynglŷn â’u bwriad.

Yr wythnos hon, fe ddywedodd Arlywydd Rwsia, Dimitry Medvedev, fod sancsiynau yn erbyn Iran yn rhwym o ddod os oedden nhw’n ceisio creu arfau niwclear. Tan hynny, roedd wedi gwrthwynebu.

Ond mae Arlywydd Rwsia hefyd yn credu y dylai’r byd geisio ysgogi Iran i wneud y “penderfyniad cywir” a defnyddio ynni niwclear mewn modd heddychlon.

Mae Iran eisoes dan sancsiynau gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig am wrthod rhoi’r gorau i gyfoethogi wraniwm.