Mae batio ardderchog Gareth Rees a Mark Cosgrove wedi cynnal gobeithion Morgannwg o godi i adran un Pencampwriaeth y Siroedd.

Ond fe allai buddugoliaeth yn erbyn Surrey yn yr Oval fod yn ofer gan fod Swydd Northampton mewn safle cryf i ennill eu gêm nhw yn erbyn Swydd Caerlŷr – Leicestershire.

Mae angen i Swydd Northampton ac Essex golli eu gemau er mwyn i Forgannwg gael unrhyw obaith o ddyrchafiad. A rhaid i Forgannwg ennill.

Batiad cyntaf

Fe gafodd bowliwr Morgannwg, Garnett Kruger, ei ffigurau gorau eto i gymryd chwe wiced yn erbyn Surrey i roi targed o 430 yn y batiad cynta’ i’w fatwyr.

Mae Morgannwg wedi dechrau’n ardderchog gyda Rees yn cyfrannu 109 a Cosgrove yn ychwanegu 145. Yn y broses, fe lwyddodd Gareth Rees i groesi’r 1,000 o rediadau mewn tymor.

Fe fydd y ddau yn ailddechrau heddiw gyda Morgannwg ar 271-0, 159 o rediadau y tu ôl Surrey.

• Yn y gêm yn Northants, mae angen i Gaerlŷr sgorio 352 arall i wneud i Northants fatio am yr ail waith, a dim ond wyth o wicedi sydd ar ôl.

Llun: Gareth Rees – croesi’r 1,000 rhediadau