Mae awdurdodau iechyd wedi rhybuddio bod cynnydd mewn ffliw moch dros y saith diwrnod diwethaf yn arwydd cyntaf bod ton newydd o’r afiechyd ar y ffordd dros y gaeaf.
Yng Nghymru, fe ddyblodd y ffigurau bron, o ychydig tros 7 ym mhob 100,000 i bron 14 ym mhob 100,000, ond mae’r lefelau’n parhau’n is na lefelau arferol ffliw yn ystod y gaeaf.
Y newid yn y tywydd a’r ffaith fod yr ysgolion yn ôl yw’r ddau brif reswm sy’n cael eu rhoi tros y cynnydd ond mae’n llai nag yr oedd arbenigwyr wedi ei ofni.
Dim ond pump o bobol sydd yn yr ysbyty yng Nghymru oherwydd y clefyd a dim ond un
sydd wedi marw yma – menyw 55 oed o Gaerffili.
“Mae nifer o bobl sy’n dioddef o symptomau ffliw yn cynyddu”, meddai Dr Roland Salmon o’r Gwasanaeth Iechyd. “Gallai hyn fod yn arwydd bod ton aeafol o’r ffliw wedi cychwyn”
Mae disgwyl y bydd meddygon yn dechrau brechu’r bobol sydd mewn mwya’ o beryg yn ystod yr wythnosau nesa’ – pan fydd y brechlyn wedi cael y trwyddedau priodol.