Mae un o brif filwyr y fyddin wedi ymddiswyddo, yn rhannol oherwydd agwedd y Llywodraeth at y rhyfel yn Afghanistan.
Dim ond dri mis yn ôl y cytunodd yr Uwch-gadfridog Andrew Mackay ar gytundeb tair blynedd newydd i arwain y fyddin yn yr Alban, gogledd Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Er ei fod wedi gwrthod rhoi ei resymau, mae ei ffrindiau’n dweud mai’r rhyfel yn Afghanistan oedd un o’r prif rai – roedd yn anhapus gyda’r adnoddau a’r strategaeth ac yn feirniadol o “ddiffyg cefnogaeth” y Llywodraeth.
Roedd y Cadfridog wedi beirniadu’r sefyllfa yno y tro diwetha’ iddo ddod yn ôl o Afghanistan ei hun ac yntau’n arwain y lluoedd yn Nhalaith Helmand.
Un rheswm arall sydd wedi ei awgrymu yw fod yr Uwch-gadfridog yn anhabus gyda chynlluniau i aildrefnu’r fyddin.
Llun (Y Weinyddiaeth Amddiffyn)