Mae’r dyn a roddodd wybodaeth gyfrinachol am dreuliau ASau i bapur newydd cenedlaethol yn dweud mai dicter at driniaeth milwyr yn Afghanistan oedd un o’i resymau am wneud.

Fe benderfynodd y dyn ddangos y manylion i’r wasg oherwydd ei fod yn ddig gyda’r ASau oedd yn gwario miliynau o bunnoedd ar ail gartrefi a morgeisi ffug tra oedd milwyr yn diodde’ o ddiffyg arfau ac adnoddau.

Mae papur y Daily Telegraph, a dorrodd y stori, yn dweud bod y dyn dienw yn gweithio yn Nhŷ’r Cyffredin mewn adran oedd yn cofnodi’r treuliau ac roedd nifer o filwyr yn gweithio yno yn eu hamser sbâr.

Llyfr am yr helynt

Fe gafodd yr wybodaeth ei roi i’r papur newydd trwy berson arall gan achosi wythnosau o benawdau a siglo’r byd gwleidyddol. Mae’r stori lawn bellach yn cael ei chyhoeddi mewn llyfr, No Expenses Spared.

“Mae’r dyn a drosglwyddodd yr wybodaeth am dreuliau ASau wedi penderfynu cyhoeddi ei stori yn y gobaith y bydd yn cywilyddio’r llywodraeth i roi offer addas i’r milwyr,” meddai’r Daily Telegraph.

Mae’r dyn yn cael ei ddyfynnu’n dweud hyn: “Mae’n anodd gwylio lluniau o arch wedi ei gorchuddio gan faner Jac yr Undeb, ac yna mynd i’r gwaith i weld ar y cyfrifiadur beth mae’r ASau wedi bod yn ei hawlio.”