Fe roddwyd caniatâd cynllunio i godi academi filwrol anferth yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg.

Penderfynodd Cyngor Sir y Fro o blaid cynllun y consortiwm Metrix i ddatblygu’r Coleg Technegol Amddiffyn ar safle’r maes awyr yno.

Fe fyddai’n costio £13 biliwn, yn llyncu 1,000 o erwau o dir ac yn hyfforddi cymaint â 3,000 o bobol ar y tro, o bob un o’r lluoedd arfog.

Roedd caniatâd cynllunio yn bwysig er mwyn symud y cynllun yn ei flaen, ond mae angen cefnogaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn eto.

Y dadlau

Mae ymgyrchwyr heddwch a rhai o arweinwyr Plaid Cymru wedi gwrthwynebu agor yr academi ac fe ddechreuodd y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd simsanu tros gostau’r datblygiad.

Yn ogystal â gwrthwynebu’r egwyddor, mae yna bryderon am y math o hyfforddi a phwy a fyddai’n cael eu hyfforddi yno ac am effaith sŵn ac anhwylustod ar bobol leol.

Ond mae’r AS lleol, John Smith, wedi rhoi croeso cynnes i’r penderfyniad gan ddweud y bydd y cynllun yn creu miloedd o swyddi. Ac fe addawodd Metrix y byddai adnoddau hamdden a chwaraeon y ganolfan ar agor i bobol leol.

Llun (Gwifren PA)