Mae cyfarfod gwledydd yr G20 yn yr Unol Daleithiau wedi ymateb i newid sylweddol mewn grym economaidd ar draws y byd.

Mae’r cynrychiolwyr eisoes wedi cytuno dweud mai hwn, bellach, fydd y prif fforwm i drafod yr economi – gan dynnu gwledydd fel China, India a Brasil at y bwrdd ucha’.

Am flynyddoedd, dim ond saith o’r hen wledydd cyfoethog oedd yn y grŵp, cyn i Rwsia ymuno yn ystod y blynyddoedd diwetha’. Fe ddechreuodd yr 20 gyfarfod wrth ymateb i’r argyfwng economaidd.

Mae disgwyl hefyd y bydd y cyfarfod yn Pittsburgh hefyd yn arwain at gryfhau llais gwledydd o’r fath mewn sefydliadau rhyngwladol eraill fel Cronfa Ariannol Ryngwladol, yr IMF.

Fe ddywedodd y Tŷ Gwyn fod y G20 yn rhoi lle i’r gwledydd sydd eu hangen “i greu economi byd-eang cryfach a mwy cytbwys, i ddiwygio’r system ariannol a chodi’r bobol dlota’.”

Yn ôl dogfennau sydd wedi dod i law asiantaeth Reuters, fe fydd yr arweinwyr yn cytuno ar ddatganiad sy’n parhau gyda chefnogaeth frys yn ystod yr argyfwng ariannol ac yn gosod mwy o gyfyngiadau ar sefydliadau ariannol.

Mae disgwyl cytundeb terfynol ar y datganiad hwnnw erbyn diwedd dydd Gwener.