Mae dyn a sleifiodd mewn i ystafell wely gwraig yn y Barri ddeng mlynedd yn nôl, wedi ei gael yn euog o geisio ei threisio hi.
Yn Llys y Goron, Caerdydd, dywedodd y Barnwr Roderick Evans wrth Leighton Morgan, y dylai ddisgwyl cael ei garcharu am “gyfnod sylweddol”.
Roedd y dyn 44 oed wedi cyfaddef iddo dorri i mewn i gartref y wraig ac ymyrryd â hi tra oedd hi’n cysgu, ac o ddwyn ei bag, ond roedd wedi gwadu ceisio ei threisio.
Cyn i’r rheithgor ystyried yr achos, roedd y Barnwr wedi rhoi gorchymyn iddyn nhw ganfod Leighton Morgan yn ddieuog o drais am nad oedd digon o dystiolaeth i brofi hynny yn yr achos.
Cafodd Leighton Morgan, sy’n dod o Lansawel, ei arestio ym mis Mawrth, bron 10 mlynedd ar ôl y digwyddiad, ar ôl i sampl o’i DNA gael ei ddarganfod ar ddillad isaf y wraig.
Yn dilyn y ddedfryd, datgelwyd fod gan Leighton Morgan gyhuddiadau blaenorol o boeni cyn gariadon.