Mae’r Ceidwadwyr wedi condemnio’r Gweinidog Iechyd am atal y Gwasanaeth Iechyd rhag defnyddio cyffuriau sy’n ymestyn bywyd cleifion sy’n dioddef o ganser yr arennau.

Yn ôl eu llefarydd iechyd, roedd Edwina Hart wedi codi gobeithion cleifion ac wedyn wedi eu chwalu trwy newid ei meddwl.

Dim ond chwlio am benawdau da yr oedd y Gweinidog, yn ôl Andrew R. T. Davies – fe fyddai’r penderfyniad newydd yn achosi “torcalon a phryder” i’r cleifion.

Gwadu’r honiad y mae’r Llywodraeth gan ddweud ei bod yn dilyn canllawiau’r corff arolygu cyffuriau NICE ac mai caniatâd dros dro oedd wedi ei roi.

Dyma drefn y penderfyniadau:

Ionawr 2009 – Edwina Hart yn rhoi caniatâd i ddefnyddio tri chyffur – Avastin, Nexavar a Torisel – tra oedd NICE yn ystyried y mater.

Awst 2009 – NICE yn penderfynu nad oedd y lles o ddefnyddio’r cyffuriau werth yr arian. Ar ôl ychydig o ansicrwydd, Edwina Hart yn dweud y byddai’n ystyried eto.

Medi 24, 2009 – Edwina Hart yn dilyn argymhelliad NICE.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, penderfyniad tros dro oedd un y Gweinidog Iechyd ym mis Ionawr ac fe fyddai unrhyw gleifion oedd wedi dechrau defnyddio’r cyffur yn gallu parhau i wneud hynny.

Fe fydd modd eu defnyddio hefyd mewn amgylchiadau eithriadol ar argymhelliad doctoriaid.

Dywedodd llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black, fod y penderfyniad yn “gam difrifol yn ôl i gleifion arennau yng Nghymru”.

Ond mae Cadeirydd  yr elusen, Sefydliad Arennau Cymru, wedi amddiffyn y Gweinidog gan wrthod honiadau ei bod wedi chwilio am gyhoeddusrwydd.