Maen nhw’n dweud mai John Lewis yw’r siop sawl-adran gynta’ i agor yng Nghaerdydd ers 30 mlynedd, mae’n brolio mai hi yw’r siop sawl-adran fwya’ yng Nghymru a’r John Lewis mwya’ yng ngwledydd Prydain y tu allan i Lundain.
Roedd yno jyglwyr, Côr Meibion Parc yr Arfau, drymwyr Samba Galles, plant Ysgol Gynradd y Fair Forwyn, modelau byw yn dynwared modelau ffenest, lot o goffi am ddim … a siopwyr. A llawer o’r rheiny’n cyrraedd mewn rickshaws arbennig.
Ar ôl cyrraedd beth welson nhw?
Mae’r tu mewn yn ddigon tebyg i bob siop sawl-adran arall ond yn anferth – 280,000 troedfedd sgwâr, maint chwe chae pêl-droed a hynny ar bedwar llawr.
Maen nhw’n dweud ei bod hi wedi costio £35 miliwn i’w chodi a bod yno 350,000 o eitemau i gyd, yn amrywio o deganau £1 i emwaith drud yn costio miloedd.
Mae’r awyrgylch yn ddigon pleserus – er gwaetha’r torfeydd diwrnod-cynta’ a’r balŵns – ac mae bar espresso ar y llawr cynta’ a chaffi eang ar y llawr top.
Cymraeg?
Mae’r caffi’n cynnig bwyd Cymreig, gan gynnwys cawl, tarten gennin, cig oen, bara brith a phice ar y maen.
Ac mae un o siopau mwya’r Deyrnas Unedig hefyd yn gwneud defnydd da o ddwyieithrwydd yn eu harwyddion a’u deunyddiau hysbysebu.
Fydd hi’n llwyddo?
Ffactor pwysig yw fod hon yng nghanol y ddinas, yn wahanol i rywle fel Cribbs Causeeway ger Bryste. Mae yna faes parcio addas hefyd – gyda lle i 550 o geir – a rhagor ym maes parcio’r Ganolfan. Felly, mae Caerdydd yn cynnig myw o brofiad cyflawn o siopa mewn awyrgylch dinesig, gyda chaffis a bwytai a llefydd diddorol, yn ogystal â siopau.
Beth am yr effaith ar siopau eraill?
Mae siop fawr Howells wedi cael ei thrawsnewid hefyd yn ddiweddar i fynd gyda delwedd newydd Caerdydd. Mae’r ddwy siop yn eitha’ tebyg ond mae Howells yn dal i fod yn fwy tebyg o ddenu cefnogaeth y ‘ladies who lunch’ o’r Bontfaen. Mae gan Howells adran fwyd fwy arbenigol sydd newydd ailagor dan enw y ‘Cwm Deri Welsh Food Hall’ gyda tua 270 o gynhyrchion Cymreig.
Beth arall?
Fe fydd gweddill cynllun Dewi Sant 2 yn agor ar Hydref 22, gydag 1.4 miliwn troedfedd sgwâr arall o lefydd gwario.
Y targed yw codi Caerdydd o fod yn ddegfed yn rhestr trefi siopa’r Deyrnas Unedig i’r wythfed safle – fe fydd hynny’n golygu ychwanegu at y 27 miliwn o siopwyr a 10 miliwn dwristiaid sy’n dod yno bob blwyddyn.
Yn ôl y datblygwyr, mae 66% o’r siopau – tua 50 – yn llawn a mwy na hanner y cwmnïau yn dod i Gymru am y tro cynta’.
Y nod yw bod 30 arall yn agor erbyn y Nadolig a rhagor yn 2010 gan fwy na dyblu’r hyn sydd yng Nghanolfan Dewi Sant ar hyn o bryd.
Medden nhw
“Mae’r datblygiad yn bwysig iawn i Gaerdydd, ac am newid ein tirwedd siopa am byth. Mae’r ddinas yn sicr yn codi ei statws i fod yn un o lefydd siopa gorau’r DU.” – Paul Williams, Rheolwr Canol Dinas Caerdydd.
“Bydd John Lewis yn ychwanegu at y siopau eraill yn hytrach na chystadlu a’r cyfan yn creu cyrchfan siopa wych i’r ddinas i ymuno â’i llwyddiannau ym myd chwaraeon a diwylliant.” – Lis Mihell, Rheolwr-gyfarwyddwr y siop.