Ifan Morgan Jones sy’n dweud edrych ar y drychineb olew yn Gwlff Mecsico…
Ar y ffordd adref yn y car neithiwr roeddwn i’n gwrando ar brif weithredwr BP, Tony Hayward, yn cael ei rwygo’n ddarnau gan Gyngres yr Unol Daleithiau.
Sgwrs hanner awr glywais i ond mae’n debyg ei fod o wedi bod yno yn (peidio) ateb cwestiynau am tua saith awr.
Roedd hi’n amlwg o wrando ar y Cyngreswyr yn rhefru pa mor amhoblogaidd ydi BP yn y wlad erbyn hyn – roedd yr ymosodiadau yn filain a dweud y lleiaf.
Byddai waeth iddyn nhw fod wedi ei roi o yn y stociau a thaflu tomatos ato ddim. Nid ei gwestiynu oedd y nod ond ei fychanu, gan wneud iddynt eu hunain edrych yn dda.
Roeddwn i’n eitha’ hoffi Barack Obama pan gafodd o’i ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau ond rydw i’n cofio meddwl ar y pryd y byddwn i siŵr o’i gasáu ryw ben yn ystod y pedair blynedd nesaf.
Wel, dydw i ddim yn ei gasau o rŵan ond dydi’r ffordd y mae o wedi delio gyda’r sefyllfa heb wneud argraff dda iawn arna’ i.
Mae o wedi dechrau galw BP yn ‘British Petroleum’ – fel athro sy’n galw disgybl wrth ei enw llawn pan mae o’n cael stŵr. Mae o, fel y cyngreswyr, eisiau rhoi cymaint o bellter rhyngddo ef a BP a phosib.
Gwleidyddiaeth grai ydi hynny wrth gwrs ond beth sy’n mynd ar fy nerfau i go iawn ydi pa mor rhagrithiol yw’r cyfan.
Mae’r Unol Daleithiau yn defnyddio mwy o olew na neb arall ac ychydig wythnosau yn unig cyn trychineb Deepwater Horizon roedd Barack Obama wedi cymeradwyo mwy o dyllu am olew yn Alaska ac oddi ar arfordir Mor Iwerydd y wlad.
Mae ymgais Obama a’r Gyngres i shifftio’r bai ar BP yn fy atgoffa o’r Fonesig Macbeth yn ceisio sgrwbio’r gwaed oddi ar ei dwylo – fe fydd o yno o hyd.
Pan mae trychinebau yn digwydd mae’n rhaid cyfaddef eu bod nhw’n rhan o’r gost o or ddibyniaeth y byd ar olew.
Os ydyn nhw’n meddwl fod y gost honno’n rhy uchel yr ateb yw buddsoddi mwy mewn egni adnewyddadwy a lleihau eu dibyniaeth ar y stwff du.