Bydd nifer o robotiaid yn cael eu defnyddio ar gyfer tasgau o ddydd i ddydd mewn ysbyty yn yr Alban.

Mae’r robotiaid am gael eu defnyddio i gludo gwastraff a lleiniau budr, yn ogystal â dosbarthu bwyd a chyffuriau yn Ysbyty Brenhinol Forth Valley yn Larbert, Stirlingshire.

Mae’r robotiaid yn cael eu profi yn yr ysbyty newydd £300m ar hyn o bryd, cyn iddo agor ym mis Awst.

Dyma’r tro cyntaf i ysbyty yn y Deyrnas Unedig ddefnyddio’r fath dechnoleg, sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn Japan, yr Unol Daleithiau a Ffrainc.

Bydd y robotiaid yn gweithredu ar rwydwaith arbennig o goridorau o dan yr ysbyty, ac fe fydd staff yr ysbyty yn gallu galw arnynt pan fydd angen.

Bydd y robotiaid yn defnyddio’r lifft agosaf i fynd i gasglu neu gludo’r eitem cyn dychwelyd i’r lifft.

Mae’r robotiaid yn defnyddio system laser i ganfod ble maen nhw ac i synhwyro a oes rhywbeth o’u ffordd.

Dywedodd Elspeth Campbell, llefarydd ar ran yr ysbyty, y byddai’r robotiaid yn helpu gyda rheoli heintiau yn ogystal â rhoi mwy o amser i staff yr ysbyty i dreulio gyda’r cleifion.