John Griffiths, Llwybr Llaethog
Miriam Elin Jones sy’n adolygu albwm Dub Cymraeg Llwybr Llaethog

I bawb sy’n cwyno am ddiffyg amrywiaeth cerddoriaeth Gymraeg, mae’n well i chi barhau i ddarllen. Mae’r adolygiad hwn yn benodol i chi. Cyflwynaf i chi Llwybr Llaethog.

Criw o Flaenau Ffestiniog sydd wedi bod wrthi ers yr 80au yn llusgo diwylliant Cymraeg i’r unfed ganrif ar hugain, ac yn arloeswyr rap ac electronica yn y Gymraeg. Mae’n anodd credu eu bod wedi bod wrthi cyhyd wrth wrando ar sŵn unigryw eu deuddegfed albwm, Dub Cymraeg/Welsh Dub. O bosib, dyma un o’r albymau dub gyntaf yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n braf clywed rhywbeth gwahanol i’r indie-roc arferol.

Rhaid i mi gyfaddef cyn dechrau, nad dyma’r fath o gerddoriaeth y byddaf yn gwrando arni fel arfer, felly mae’r genre dub yn diriogaeth newydd i mi. Roedd Llwybr Llaethog yn enw lled-gyfarwydd, ond cyn darganfod yr albwm yma, nid oeddwn wedi rhoi chwarae teg i’w gwaith.

Ar y gwrandawiad cyntaf, bûm yn difaru cynnig adolygu rhywbeth mor hynod, a gobeithio mai albwm roc neu bop newydd y byddem yn ei dderbyn y tro nesaf! Ond, wrth barhau i wrando, sylwais fy mod yn tapio ‘nhroed a symud fy mhen i guriad y gerddoriaeth yn fwy nag oeddwn yn barod i’w gyfaddef.

Math o reggae wedi ei gymysgu ar drac sain electronig yw dub (i’r rhai ohonoch, fel myfi, nad oedd yn ymwybodol o hynny), ac mae’r albwm hon yn un y gallech ddychmygu fel trac sain i’r house party delfrydol.

Fel y byddech yn disgwyl, mae yna elfen abstract iawn i nifer y caneuon – cawn gybolfa lwyr o ddylanwadau cerddorol ac ambell i waedd heriol fel pe bai’n dianc rhwng y trawiadau cryfion. Mae naws iasoer ‘Caru Ti Dub’ er enghraifft, yn cosi’ch clustiau ac yn eich tynnu i rythm y gerddoriaeth.

Ar y llaw arall, mae ‘Anomie Dub’ yn gras ac yn grafog – a neges ddigon clir yn erbyn difaterwch pobl, ac mae’n arddangos hefyd y natur wrthryfelgar sy’n gyfrinach i barhad Llwybr Llaethog.

Mae’r elfen electronig sydd ym mhob trac yn rhoi elfen arallfydol i’r albwm hon – byddai rhai nad ydynt yn ffans o’r math yma o gerddoriaeth yn sicr o gwyno bod pob trac yr un peth, a pheidio â gwrando ymhellach – ond anodd yw dadlau nad yw Llwybr Llaethog unwaith eto wedi llwyddo i fynd groes-graen i gynnyrch ‘arferol’ cerddoriaeth Gymraeg, a thrwy hynny wedi cynnig rhywbeth gwefreiddiol iawn i ni. (Pe baem yn ysgrifennu’n Saesneg, byddai puns megis ‘out of this world’ ayyb yn addas iawn).

Yn sicr, mae yna elfen Marmite-aidd i’r albwm hon – gallaf ddychmygu gwrandawyr arferol Iola Wyn a Geraint Lloyd yn poeri i’w paneidiau ac yn ffieiddio’n llwyr wrth glywed rhai o’r traciau, ond ar y llaw arall, bydd hipsters C2 wrth eu boddau.

Gyda Dub Cymraeg/Welsh Dub, mae Llwybr Llaethog unwaith eto wedi llwyddo i osod eu stamp unigryw ar gerddoriaeth Gymraeg, boed yn ffan neu beidio – tipyn o gamp i ddeuddegfed albwm. Na, nid yw at fy nant i, ond rwyf yn ffyddiog y bydd dilynwyr Llwybr Llaethog wrth eu bodd gyda’r albwm – ac yn ôl y sôn, mae’r cynifer cyfyngedig o’r finyl arian yn werth eu gweld hefyd.

Gallwch ddilyn Miriam ar Twitter ar @miriamelin23, neu ddarllen ei blog ar http://miriamelinjones.tumblr.com/.