Noor gyda'i phlentyn, Yazan
Sara Gibson sy’n son am waith Achub y Plant i helpu ffoaduriaid o Syria…

Miloedd o filltiroedd i ffwrdd o’r trafodaethau sy’n digwydd yn Efrog Newydd yr wythnos hon mae Noor, ei gwr a’u tri phlentyn wedi blino.

Fe gerddon nhw 100 cilomedr dros bum noson er mwyn dianc Syria. Roedd yn rhaid iddyn nhw, achos does ganddyn nhw ddim bwyd.

Dyw plentyn lleia’ Noor, Yazan, ddim yn un oed eto, ac mae ei iechyd yn wael gan nad oedd ganddyn nhw lefrith babi i roi iddo tra yn Syria, dim ond bara wedi ei fwydo mewn te oer. Roedd e’n sâl yn aml, gan nad yw babanod yn gallu stumogi bwyd oedolion.

O fewn y mis nesa, bydd Noor yn geni eu pedwerydd plentyn. Ond mae’n pryderu am iechyd y plentyn hwnnw cyn iddo hyd yn oed gyrraedd y byd, am nad yw hi wedi gallu rhoi maeth yn ei chorff ei hun tra’n cario.

Mae’r teulu bellach wedi cael lloches yng ngwersyll ffoaduriaid Zaatari yng Ngwlad yr Iorddonen, yr ail fwya o’i fath yn y byd.


Un o'r canolfannau dosbarthu bwyd
Yno fel llawer o deuluoedd eraill, mae modd iddyn nhw gael rhywfaint o fwyd drwy ganolfannau dosbarthu. Ond rhaid ciwio i gael tocyn bwyd, ac yna ciwio i gael y pecyn.

Mae Achub y Plant yn darparu bara i 116,000 o ffoaduriaid Syria yn Zaatari bob dydd. Mae ganddon ni ganolfannau iechyd yno hefyd, i gefnogi teuluoedd fel un Noor, lle mae’r diffyg maeth tra’n ceisio gadael y wlad wedi effeithio ar eu hiechyd – yn enwedig y plant.

Ac mae ’na ardaloedd diogel i blant cael chwarae ynddyn nhw – i blant gael bod unwaith eto yn blant, ac i gael dechrau ar y broses hir o geisio dygymod  a’r erchyllterau maen nhw wedi ei weld a’i brofi.

Ond beth am y plant sydd ar ôl? Yr amcangyfri’ ydy bod 2 filiwn o blant yn Syria o hyd, ac yn gynyddol maen nhw mewn perygl o lwgu.

Pam? Mae’r strwythurau dosbarthu bwyd wedi methu yn dilyn blynyddoedd o ryfela, amaethwyr tir wedi cael eu lladd neu wedi ffoi felly does dim modd casglu cynnyrch o’r caeau. A hyd yn oed os oes ’na fwyd, mae e mor ddrud i’w brynu.

Mae’r neges i’r gwleidyddion yn Efrog Newydd yr wythnos hon yn glir – rhaid dod i gytundeb fel bod gweithwyr dyngarol yn gallu cyrraedd y rheiny sy’n dal yn gaeth yn Syria.

Mae ’na berygl gwirioneddol y bydd llawer yn newynu, a’r wanaf mewn cymdeithas sy’n diodde waethaf – plant. Ac mae’n rhaid i ni fel Cymru roi ein dwylo yn ein pocedi a chyfrannu arian, neu bydd dim modd parhau a’r gwaith o geisio rhoi cymorth i blant Syria.