Ifan Morgan Jones sy’n dweud bod angen newidiadau sylfaenol i rygbi hemisffer y gogledd os ydan ni am ddal i fyny gyda chewri hemisffer y de…

Ddrwg gen i darfu ar yr holl bêl-droed.

Ond os allech chi dynnu eich llygaid oddi ar Slofenia ac Algeria am eiliad (mae’n anodd dw i’n gwybod), roedd yna gemau rygbi yn cael eu chwarae penwythnos yma.

Yn anffodus doedden nhw ddim yn lot mwy o hwyl i’w gwylio. Os nad ydach chi’n gwybod y sgor, ‘look away now’. A pheidiwch byth ag edrych yn ôl.

Fe gollodd Lloegr 27-17 yn erbyn Awstralia, ac fe gafodd Iwerddon eu dinistrio 66-28 yn erbyn Seland Newydd.

Roedd hyd yn oed Ffrainc, gobaith mawr hemisffer y gogledd yn y Cwpan y Byd flwyddyn nesaf, wedi colli 42-17 yn erbyn y Boks.

Dim ond yr Alban, a faeddodd Pumas yr Ariannin yn Tucuman, oedd yn llwyddiannus.

Paratoi am Gwpan y Byd

Yr un hen stori felly. Dyw timau hemisffer y gogledd ddim yn gallu maeddu’r tri mawr o’r de gartref nac oddi cartref.

Yr unig gwestiwn penwythnos yma, pan fydd Cymru yn wynebu Seland Newydd, yw pa fath o grasfa fydd hi?

Crasfa barchus (tua 10 pwynt?), ynteu uffar o grasfa (30 pwynt neu fwy)?

Yn ôl yr hyfforddwyr sy’n trefnu’r teithiau yma i hemisffer y de mae’n rhaid chwarae’r timau gorau yn y byd os ydi timau hemisffer y gogledd am wella.

Ond dw i ddim yn meddwl ei fod o’n mynd i wneud y tric. Rydan ni wedi dioddef crasfa ar ôl crasfa yn eu herbyn nhw ers tua chan mlynedd a dyn ni heb wella dim.

Gobaith mawr Cymru yng Nghwpan y Bydd ydi dianc o’r grŵp, ac yna ennill yn rownd yr wyth olaf os ydan ni’n wynebu tîm o Ewrop.

Ac yna colli gyda chrasfa barchus (wele uchod) unwaith ydan ni’n dod ar draws un o dimau’r Tri Nations.

Efallai y dylai Warren Gatland fod wedi trefnu taith yr haf i ynysoedd Samoa a Fiji yn lle. Hyd y gwela’ i nhw fydd yn penderfynu a ydi Cymru yn cael Cwpan y Byd i’w hanghofio ai peidio.

Tywydd garw

Mae’n amlwg i mi erbyn hyn fod yna rywbeth eithaf sylfaenol yn gyfrifol am y gwahaniaeth rhwng hemisffer y gogledd a’r de.

Roedd proffesiynoldeb rygbi i fod i ddatrys y broblem, ond tydi o ddim wedi gwneud.

Dim yr hyfforddwyr sydd ar fai – dwi’n siŵr y bydd Warren Gatland yn efelychu Graham Henry ryw ddydd fel hyfforddwr rhwystredig Cymru sy’n troi’n hyfforddwr llwyddiannus i’r Crysau Duon.

Na, mae’n amlwg fod yna broblemau dyfnach fan hyn – pethau sydd heb newid ers 100 mlynedd.

Un o’r rheini dw i’n meddwl ydi’r tywydd. Mae’n amlwg bod chwarae yn y gwynt a’r glaw yn arafu ein gem rygbi ni yma yn hemisffer y gogledd.

Ydi, mae timau hemisffer y de hefyd yn chwarae yn ystod eu gaeaf nhw. Ond mae eu gaeafau nhw yn llawer sychach a cynhesach na’n rhai ni.

Mae rygbi Ewrop fel arfer yn gwella’n amlwg unwaith mae pethau’n dechrau cynhesu tua diwedd y tymor. Mae yna gyfle i chwaraewyr redeg gyda’r bel heb gael eu harafu gan yn y mwd.

Y cam cyntaf felly fyddai i symud y tymor rygbi i’r ha’.

Fyddai hyn ddim yn beth drwg i’r cefnogwyr chwaith – fyddai rygbi ddim yn cystadlu gyda phêl droed, a byddai’n fwy o hwyl cefnogi’r tim yn eich shorts nac yn rhewi’n gorn mewn eirlaw.

A gyda’r cae’n galetach byddai’n haws rhedeg, a gyda’r bel yn llai gwlyb fe fyddai’n hawdd ei ddal. Dw i’n credu y byddai safon y chwarae yn gwella’n sylweddol.

Digon o bosib i ddechrau cystadlu ar yr un lefel a mawrion hemisffer y de.

Super

Mantais mawr arall chwaraewyr hemisffer y de dros y gogledd yw bod eu timau rhanbarthol gorau yn chwarae ei gilydd yn gyson.

Yn Ewrop mae gan y gwledydd Celtaidd, Lloegr a Ffrainc eu cynghreiriau eu hunain a dim ond yn y Cwpan Heineken mae’r clybiau gorau yn wynebu ei gilydd.

Yn Super 14 (15 flwyddyn nesa’) hemisffer y de mae’r clybiau gorau yn y byd yn wynebu ei gilydd wythnos ar ôl wythnos yn ystod y tymor.

Dwi’n siŵr y byddai gem Caerdydd neu’r Gweilch yn elwa ar chwarae timoedd o safon Toulouse, Leicester a Munster bob wythnos yn hytrach nag unwaith neu ddwywaith y tymor.

Fe fyddai hefyd yn denu mwy o dorf cael gweld eich clwb chi’n chwarae yn erbyn timoedd mwy egsotig o wledydd pell na wynebu Dreigiau Casnewydd Gwent neu Connacht am y canfed tro.

Y gêm genedlaethol?

Mae poblogaeth Cymru yn fach o’i gymharu gyda gwledydd rygbi mawr y byd ond mae’r boblogaeth sy’n chwarae rygbi yn llai fyth.

Yn ôl y ffigyrau sydd gen i o’m blaen i mae yna tua 40,000 o chwaraewyr rygbi cofrestredig yng Nghymru, o’i gymharu gyda thua 140,000 yn Seland Newydd, gwlad fach arall.

Tan fod mwy o ymdrech yn cael ei wneud i ddatblygu mwy o chwaraewyr o oed ifanc fe fydd yna ddiffyg cryfder mewn dyfnder yn y sgwad genedlaethol.

Wrth gwrs, byddai newid y tymor rygbi i’r haf yn debygol o ddenu mwy o blantos ifanc sydd ddim yn hoffi rhynnu yn y mwd am ddwy awr bob penwythnos.

A byddai cyflwyno’r gêm i’r 600,000 o bobol sy’n byw yng ngogledd Cymru hefyd yn ddechrau da, hefyd.

Efallai bod newidiadau mawr fel hyn yn ymddangos yn annhebygol o ddigwydd. Ond rydw i wir yn dechrau meddwl mai dim ond newidiadau mawr, sylfaenol fel hyn fydd yn gweithio.

Fel arall, can mlynedd arall o gael ein chwalu gan Seland Newydd sy’n ein disgwyl ni…