Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ynglŷn â merch sydd wedi mynd ar goll o Rhisga, ger Casnewydd.

Mae Emma Louise Pope, 17 oed, wedi bod ar goll o’i chartref ers 1pm dydd Sadwrn 5 Mehefin.

Dywedodd yr heddlu ei bod hi’n ferch denau, pum troedfedd dwy fodfedd o daldra, gyda gwallt golau at ei hysgwyddau, a chroen heulfelyn.

Pan welwyd hi ddiwethaf roedd hi’n gwisgo jîns, top gwyn a sgidiau nike.

Mae ganddi gysylltiadau yn ardal Caerffili a Penarth.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn ag Emma Louise Pope ffonio 101.