Slofenia sy’n arwain grŵp Lloegr wedi un rownd o gemau yng Nghwpan y Byd. Hawliodd y tîm o Ddwyrain Ewrop fuddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Algeria yng ngêm waethaf y bencampwriaeth hyd yn hyn.

Wedi i gêm y Saeson yn erbyn UDA orffen yn gyfartal neithiwr, roedd y ddau dîm yn gwybod y byddai buddugoliaeth yn eu rhoi ar frig Grŵp C ac mewn safle gobeithiol er mwyn symud ymlaen i’r rownd nesaf.

Diflas i ddweud y lleiaf oedd y gêm, gyda’r un o’r ddwy wlad yn edrych yn beryglus o gwbl – roedd gweld y dorf yn gwneud y ‘Mexican Wave’ wedi dim ond 20 munud yn arwydd gwael!

Mae’n debyg mai moment dyngedfennol y gêm oedd honno wedi 72 munud pan gafodd ymosodwr Algeria Abdelkader Ghezzal ei yrru o’r maes wedi dwy garden felen. Roedd y gŵr sy’n chwarae i glwb Siena ond wedi bod ar y maes am gwta chwarter awr pan lawiodd yn wirion yng nghwrt cosbi’r gwrthwynebwyr.

Robert Koren oedd arwr Slofenia chwe munud yn ddiweddarach. Ergydiodd Koren yn ddigon diniwed o 25 llath, ond gwnaeth y col geidwad smonach lwyr ohoni wrth i’r bêl fownsio o’i flaen. Cafodd y chwaraewr canol cae, Koren, ei ryddhau gan dîm West Brom ddiwedd y tymor, ond byd sgorio’r gôl i selio buddugoliaeth gyntaf ei wlad yn rowndiau terfynol unrhyw bencampwriaeth yn fwy na gwneud fyny am ei siom.

Bydd Algeria’n herio Lloegr nos Wener nesaf, tra bydd Slofenia’n llawn hyder i’w gêm yn erbyn yr Americanwyr y prynhawn hwnnw.