Rhai o'r plant yng ngwersyll ffoaduriaid Domiz yn Irac
“Yr argyfwng dyngarol gwaethaf erioed” – dyna ddisgrifiad Sefydliad Iechyd y Byd wrth i nifer y ffoaduriaid yn Syria gyrraedd mwy na 2m wythnos diwethaf. Yma, mae Sara Gibson o Achub y Plant yn adrodd hanes rhai o’r ffoaduriaid…

Mae’n dair blynedd bron ers i’r rhyfel yn Syria ddechrau, a dy’n ni dal ddim yn gwybod pa mor hir fydd e’n parhau. Dros y cyfnod hwnnw mae dros 7,000 o blant wedi cael eu lladd, dros 2m o blant wedi gorfod gadael eu cartrefi y tu mewn i Syria, ac mae miliwn yn rhagor wedi ffoi’r wlad yn gyfan gwbl – a’r gwirionedd ydy eu bod nhw wedi gweld llawer, llawer gormod o bethau erchyll.

A finne’n fam i ddau o blant bach, a bellach yn gweithio i Achub y Plant, mae’n anodd darllen am yr hyn y mae pobl Syria yn mynd drwyddi. Plant yn marw ar y daith i’r ffin am nad oedd ganddyn nhw fwyd na diod. Mamau yn geni plant ar ochr y ffordd, heb gymorth, a heb laeth yn y fron am fod yr erchyllterau a welson nhw yn Syria wedi effeithio ar sut mae’r corff yn gweithio.


Avina, sy'n byw yng ngwersyll ffoaduriaid Domiz
Heddiw mi ddarllenais i am hanes un teulu sydd bellach wedi byw mewn gwersyll ffoaduriaid ers blwyddyn gyfan. Mae Avina, 50, yn byw yng ngwersyll ffoaduriaid Domiz yng ngogledd Irac.

O fewn tair pabell mae deuddeg o fenywod a phlant yn byw – Avina, ei llysferch Malika a’i thri phlentyn hi, dwy fodryb Malika a’u plant nhw, a Sara, a gafodd loches gyda Avina ar ôl cyrraedd y gwersyll yn nabod neb. Does dim dyn ar gyfyl y lle – maen nhw’n byw y tu allan i’r gwersyll er mwyn ennill arian i gefnogi eu teuluoedd.

“Roedd yn rhaid i ni adael Syria,” meddai Avina. “Doedd ‘na ddim swyddi yna, dim dŵr, a braidd dim bwyd. Doedd ’na ddim byd yn Syria – heblaw am bobl yn marw. Roedd ‘na lot o ymladd ar ein strydoedd ni, a chyrff. Yn y diwedd doedden ni ddim yn gallu gyrru ein car oherwydd roedd ‘na gymaint o gyrff ar hyd y lle.”


Gwersyll ffoaduriaid Domiz yng ngogledd Irac
“Mae’n oer yn y gwersyll yma yn y gaeaf,” meddai Avina. “Mae gan un o’r plant lleiaf beswch parhaol oherwydd yr holl lwch a’r dŵr llonydd brwnt sydd yma. Dyw e ddim yn le iach o gwbl. A bod yn onest, dwi’n trio peidio gadael y plant allan o’r babell rhyw lawer am ei bod hi mor frwnt tu allan.”

Stori un teulu ydy hwn – ac maen nhw wedi llwyddo i ddianc, a chael lloches a lle i’r plant fod yn ddiogel. I’r cannoedd o filoedd sy’n dal yn Syria, sydd yng nghanol y trais dyddiol, mae’r dyfodol yn hollol ansicr.

Tra bod y trafod a’r diplomyddiaeth yn parhau, mae’n rhaid i asiantaethau ag elusennau gael mynediad diogel i Syria. Mae gan bob plentyn yr hawl i fod yn ddiogel, i fod yn gynnes ac i gael digon o fwyd – ac ar hyn o bryd mae’n amhosib cyrraedd y rhai mwya bregus sy’n gaeth yn y wlad i’w helpu.