Dylan Iorwerth
15:00 – Golwg ar Golwg: Dylan Iorwerth yn trafod hanes y cylchgrawn gyda Vaughan Roderick.
Cyflwr y wasg newyddiadurol Gymreig yw pwynt agoriadol VR sy’n ennyn trafodaeth am wasanaethau newyddion Cymraeg ar ddiwedd y 60au – Y Cymro, Y Faner a Sulyn. Dibynnu ar erthyglau oedd pobl yn eu gyrru i mewn oedd prif sail Y Faner ac mae DI yn dweud ei fod wedi teimlo bod angen i gylchgrawn gamu tu allan i’r ffordd yma o gyhoeddi ac i ymateb yn fwy uniongyrchol i newyddion y dydd. Dyna oedd tu ôl i gyhoeddi Sulyn – y papur Sul Cymraeg cynta’ fu’n mynd am gyfnod yn y 1980au. Mae Golwg yn gwneud hyn ac wedi llwyddo am ei fod hefyd wedi ei ddylunio’n dda ac yn llawn lluniau trawiadol a lliwgar. Rhaid iddo fod yn wahanol ac yn barod i addasu a newid at y dyfodol.
Mae Dylan yn mynd ymlaen i sôn ei gefndir mewn sawl cyfrwng newyddiadurol, yn cynnwys gweithio i’r BBC yn Llundain ac ar ei liwt ei hun. Roedd dod â’i brofiad amrywiol a’i gysylltiadau yn ddefnyddiol iawn i’r cylchgrawn.
Iaith
Pwynt nesaf VR yw’r tensiynau rhwng pobol sy’n credu mewn defnyddio iaith lenyddol neu safonol a’r rheiny sy’n credu mewn defnyddio iaith lafar. Mae’n gofyn, sut aeth Golwg ati i ffeindio’r tir canol?
DI: Rydw i wedi tynnu ar brofiadau gwahanol. Mae sgwennu mewn tafodiaith yn gallu bod yr un mor ddiarth ag iaith lenyddol ac yn creu bwlch rhwng y sgwennwr a’r darllenwyr. Rhaid creu argraff fod iaith yn naturiol a dealladwy er mwyn apelio. Mae angen i bobol deimlo’n gyffyrddus gydag iaith. Dylai neb orfod darllen brawddeg o newyddion fwy nag unwaith.
Mae camgymeriadau iaith yn gallu digwydd ym mhob cyhoeddiad Cymraeg. Ond y peth pwysig ydi, ydan ni’n deud rhywbeth o werth? Mae ’na obsesiwn ynglŷn â chywirdeb iaith ond bysa’n well rhoi’r pwyslais ar gywirdeb y stori a’r newyddiaduriaeth.
Mae’n mynd ymlaen i sôn am her yr oes ddigidol newydd a chreu Golwg 360. Roedd yn gweld angen mawr i roi hwb o’r newydd i’r wasg Gymraeg wrth i’r cyfryngau symud tuag at y gwasanaeth digidol.
Rhyfeddod braf fod Golwg wedi dal ei dir. Mae to o ddarllenwyr wedi tyfu hefo ni a chenhedlaeth newydd wedi dod i mewn hefyd. Mae golwg360 yn cyrraedd cynulleidfa arall eto wrth i bethau addasu.
Y Dyfodol
Mae VR yn gofyn, lle fydd Golwg ymhen 25 mlynedd arall?
DI: Bydda hi’n freuddwyd ymhen amser i wneud rhywbeth hefo golwg360 lle bydd cydweithio hefo papurau bro i ehangu’r gwasanaeth. Gobeithio bydd lle i natur deunydd Golwg ymhen amser hefyd.
Mae pobl wedi dod i’r ffordd o feddwl fod Cymraeg yn iaith anodd ei darllen ond does dim rhaid i hyn fod yn wir.
“Mae angen creu byd Cymraeg i allu cystadlu yn erbyn y byd Saesneg. Rhaid i ni ffeindio ffordd o wneud hyn os ’da ni am arwain at barhad yn y cyfryngau Cymraeg.”