Yr Athro Gerwyn Wiliams
14:00 – Yr Athro Gerwyn Wiliams yn rhoi’r ddarlith gyntaf yng nghyfres goffa Islwyn Ffowc Elis.
Islwyn Ffowc Elis oedd yr awdur anwylaf a mwyaf hynaws i Gymru ei weld meddai Gerwyn Wiliams – daeth i’w adnabod ar ôl i’w deulu symud i Lambed yn yr 1980au.
Mae’n sôn fod cyfraniad IFFE i’r nofel Gymraeg yn amhrisiadwy. Mae o wedi pontio cysylltiad rhwng darllenwyr hen ac ifanc hefo’i themâu oesol. Roedd ganddo ddawn fel Steven Spielberg i gynnal diddordeb.
Mae’n edrych ar gyfraniad IFFE a Cysgod y Cryman fel enghraifft broffwydol o’r gwrthdaro politicaidd oedd yn mynd i ddigwydd yn y 60/70au.
Cysgod y Cryman: defnyddio’r gwrthdaro rhwng y tad parchus a’r mab radical, comiwnyddol fel sail i drafodaeth am y gwrthdaro rhwng Cynan a Dafydd Iwan. (Dafydd Iwan – radical, ieithyddol, gwrth-sefydliad/Cynan – yr Archdderwydd oedd yn personoli’r Sefydliad Cymraeg.)
Daeth hyn i’r amlwg pan ymddangosodd llun o ferch fron noeth yn Lol, 1967 hefo’r capsiwn ‘Bu Cynan yma’ – cychwyn i’r gwrthdaro mawr rhwng hogia’r iaith â phobol y sefydliad.
Daw hynny â ni nôl i thema IFFE o’r rhyfel gwleidyddol rhwng dwy genhedlaeth a’r safbwyntiau parchus ac amharchus.