Mae Gwyn Jenkins wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Ne Affrica fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.
De Affrica sy’n cynnal y gwpan eleni ac yn chwarae yn y gêm gyntaf yn erbyn Mecsico ar ddechrau’r gystadleuaeth heddiw.
Y Wlad
Poblogaeth: 49 miliwn
Prif ieithoedd: Afrikaans, Saesneg a naw iaith frodorol
Prifddinas: Pretoria
Arweinydd: yr Arlywydd Jacob Zuma
Llysenw: Bafana Bafana
Yr Hyfforddwr
Carlos Alberto Parreira:
Bydd y Brasiliad Parreira yn hyfforddwr yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd am y chweched tro yn 2010. Ef oedd hyfforddwr Brasil pan enillwyd y Gwpan yn 1994 a bu hefyd yn hyfforddi tair gwlad o’r Dwyrain Canol.
Y Daith
Gan fod De Affrica yn cynnal y gystadleuaeth yn 2010, clustnodwyd lle i’r wlad yn y rowndiau terfynol heb fod angen cystadlu yn y rowndiau rhagbrofol.
Y Record
Gwaharddwyd De Affrica rhag cystadlu yng Nghwpan y Byd am flynyddoedd maith oherwydd polisi hiliol y wladwriaeth. 1998 oedd y flwyddyn gyntaf i’r wlad gyrraedd y rowndiau terfynol ond methwyd â mynd heibio’r rownd gyntaf ac ni welwyd gwelliant yn y canlyniadau yng Nghwpan y Byd 2002.
Sêr o’r Gorffennol
Lucas Radebe:
Amddiffynnwr gwydn a chapten ei wlad, daeth Radebe’n adnabyddus am ei berfformiadau dros Leeds United mewn cyfnod llewyrchus i’r clwb yn ystod yr 1990au.
Kaizer Motaung:
Oherwydd cyfyngiadau polisïau hiliol apartheid yn Ne Affrica, mudodd llawer o bêl-droedwyr talentog i wledydd eraill, fel Steve Mokone a chwaraeodd i Gaerdydd yn 1959. Un o’r rhai enwocaf oedd Kaiser Motaung a ddenwyd i chwarae i’r Atlanta Chiefs yn yr Unol Daleithiau yn 1968 gan reolwr y clwb ar y pryd, y Cymro Phil Woosnam. Wedi dwy flynedd lwyddiannus, dychwelodd Motaung i Dde Affrica a sefydlu clwb newydd o’r enw Kaiser Chiefs. Bellach dyma’r clwb â’r gefnogaeth orau yn y wlad.
Gwyliwch Rhain
Tsepo Masilela:
Mae’r cefnwr chwith cyflym hwn yn chwarae i bencampwyr Israel, Maccabi Haifa. Mae’n hoff o gynorthwyo’r blaenwyr gyda’i ymosodiadau ar hyd yr asgell.
Siboniso Gaxa:
Mae’n debyg fod gan glybiau mawr yr Eidal ddiddordeb mewn arwyddo’r cefnwr de talentog hwn sydd ar hyn o bryd yn chwarae i’r clwb â’r enw melodaidd Mamelodi Sundowns.
Y Seren
Enwebwyd Pienaar yn chwaraewr y Flwyddyn yn Ne Affrica yn 2009 a bydd ei sgiliau creadigol a’i agwedd ddiflino yn hollbwysig i lwyddiant y tîm. Mae’r ‘mighty peanut’ yn ffefryn gyda chefnogwyr Everton, gan chwarae’n effeithiol ar y ddwy asgell neu yng nghanol y cae.