Mae naw o bobl o Afghanistan wedi’u lladd mewn ffrwydrad ymyl ffordd yn ne’r wlad heddiw, yn ôl awdurdodau’r wlad.

Roedd pedair o ferched a thri o blant ymhlith y rhai a fu farw yn y ffrwydrad yn gynnar bore heddiw, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth daleithiol Kandahar.

Fe gafodd wyth o bobl eraill eu hanafu yn y dalaith ddeheuol a’u cludo i ysbyty gan filwyr NATO.

Mae trais wedi cynyddu yn ne Afghanistan dros yr wythnosau diwethaf ac mae gwrthryfelwyr Taliban yn ffyrnigo wrth i filwyr NATO baratoi cyrch i reoli’r sefyllfa yn ninas Kandahar.

Llun: Map o Afghanistan yn dangos lleoliad talaith Kandahar (Wikipedia)