Mae Nelson Mandela wedi tynnu’n ôl o seremoni agoriadol Cwpan y Byd heddiw yn dilyn marwolaeth ei or-wyres mewn damwain car.

Cafodd Zenani Mandela, 13 oed, ei lladd ar y ffordd adref neithiwr o gyngerdd yn Soweto a oedd yn dathlu dyfodiad twrnament Cwpan y Byd i Affrica am y tro cyntaf.

Roedd disgwyl i Nelson Mandela, sy’n 91 oed, gymryd rhan yn y seremoni agoriadol heddiw, er bod ei deulu’n bryderus am ei iechyd.

Meddai llefarydd ar ran trefnwyr Cwpan y Byd yn y wlad: “Clywodd Mr Nelson Mandela y bore yma am farwolaeth trychinebus ei or-wyres Zenani Mandela mewn damwain.

“Byddai felly’n amhriodol iddo ef yn bersonol fynychu dathliadau agoriadol Cwpan y Byd Fifa.

“Rydym yn sicr y bydd pobl De Affrica ac o bob rhan o’r byd yn cydymdeimlo â Mr Mandela a’i deulu.”

Roedd Zenani, a oedd newydd ddathlu ei phenblwydd yn 13 echdoe, yn un o naw o or-wyrion Nelson Mandela. Nid oedd unrhyw gar arall yn y ddamwain a chafodd neb arall eu hanafu.

Dywedodd Sefydliad Nelson Mandela mewn datganiad: “Mae’r teulu wedi gofyn am breifatrwydd wrth iddyn nhw alaru’r trychineb yma.”