Mae Pab Benedict XVI wedi amddiffyn y drefn o offeiriaid yn ymgadw’n ddibriod fel arwydd o “ffydd” mewn byd sy’n fwyfwy seciwlar ddoe.

O flaen rhyw 15,000 o offeiriaid yn sgwar Sant Pedr, fe wnaeth y Pab amddiffyn y traddodiad eglwysig hwn sydd wedi’i feirniadu yn sgil y sgandal cam-drin clerigol.

Wnaeth y Pab ddim cyfeirio’n uniongyrchol at yr argyfwng sydd wedi siglo yr Eglwys Gatholig am fisoedd.

Ond mewn cyfeiriad amlwg at yr argyfwng, fe siaradodd am “sgandalau eilaidd” a oedd yn dangos “pechodau.”

Daeth sylwadau’r pab yn ystod gwasanaeth gwylnos i nodi diwedd blwyddyn yr offeiriad yn y Fatican – blwyddyn sydd wedi bod o dan gysgod cannoedd o adroddiadau o achosion newydd o gam-drin clerigol.

Roedd peth dyfalu a fyddai’r Pab yn cyfeirio at y sgandal yn ystod y gwasanaeth offeiriadol ddoe.

Eisoes mewn sylwadau diweddar ar y ffordd i Bortiwgal fe wnaeth y pab gydnabod mai pechod “o fewn yr eglwys” oedd y sgandalau ac nid o “elfennau tu allan.” Cyn hyn, roedd swyddogion y Fatican wedi rhoi bai ar y cyfryngau a lobïau gwrth Gatholig.

Fe fydd yn dathlu’r offeren derfynol heddiw cyn bod y rali offeiriaid tri diwrnod yn dod i ben.