Mae Arlywydd America, Barack Obama, wedi bod yn cysuro perthnasau 11 o weithwyr a gafodd eu lladd yn y trychineb olew  gwaethaf erioed yn hanes y wlad.

Fe wnaeth yr Arlywydd gydnabod eu “galar na ellir ei ddirnad” a’u sicrhau y byddai’n cynnig ei gefnogaeth i’r teuluoedd.

Daw sylwadau Obama ar ddiwrnod 51 o’r drychineb wrth i bwysau Llywodraeth barhau ar gwmni BP i wneud iawn a digolledu dioddefwyr y llif olew yng Ngwlff Mecsico ar 20 Ebrill.

Yn y cyfarfod a barhaodd 50 munud – fe siaradodd Barack Obama gyda theuluoedd y trychineb a’u cysuro. Yn y cyfarfod yn y Tŷ Gwyn ddoe, fe wnaeth un dyn sydd wedi colli’i fab ofyn am gefnogaeth yr Arlywydd i ddiweddaru deddf sy’n cyfyngu faint o arian y mae teuluoedd yn ei gael yn sgil digwyddiad o’r fath.

“Fe ddywedodd wrthon ni na fydden ni’n cael ein hanghofio,” meddai Keith Jones o Baton Rouge, Louisiana. “Roedd o eisiau i ni wybod na fyddai’r trychineb yn gadael ei feddwl a’i galon,” meddai.

Roedd mab Keith Jones yn gweithio ar lwyafn olew Deepwater yn ngwlff Mecsico pan ddigwyddodd y ffrwydrad gan achosi’r trychineb gwaethaf o’i fath yn hanes y wlad.

Fe wnaeth Barack Obama hefyd ddiweddaru arweinwyr cyngres ar yr ymateb i’r llif olew ac fe wnaeth y prif swyddog llywodraethol sy’n delio gyda’r achos wahodd Prif Weithredwyr BP i gyfarfod â Barack Obama yr wythnos nesaf.

Yn y cyfamser, mae ymchwilwyr sy’n astudio’r llif yn rhybuddio fod mwy o olew wedi gollwng i’r môr na’r hyn yr oedd awdurdodau’n ei gredu’n wreiddiol.

Llun: Yr Arlywydd Barack Obama gyda Llefarydd Tŷ’r Cynrychiolwyr, Nancy Pelosi, wrth ei ochr, yn cyflwyno datganiad yn Ystafell Gabinet y Tŷ Gwyn yn Washington ddoe ar ôl cyfarfod aelodau o deuluoedd diodddefwyr y trychineb (AP Photo/Charles Dharapak)