Mae pedwar myfyriwr o Brydain yn parhau’n ddifrifol wael yn yr ysbyty ar ôl damwain bws yn Ne Affrica sydd wedi lladd tri o’u cyfeillion.

Roedd y myfyrwyr o goleg addysg bellach yn Swydd Gaerlŷr ar daith addysg yn y wlad pan gollodd gyrrwr y cerbyd reolaeth wrth fynd o amgylch tro yn y ffordd – gan achosi i’r bws droi drosodd. Roedd y bws yn teithio ar y ffordd o Swaziland pan ddigwyddodd y ddamwain.

Bu farw dwy fyfyrwraig yn y fan a’r lle ar ffordd Bulembu ychydig filltiroedd o Barberton ger Nelspruit. Bu myfyriwr gwrywaidd farw yn ddiweddarach yn yr ysbyty ar ôl derbyn gofal dwys.

Yn ogystal â’r pedwar sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol, mae wyth arall yn cael eu cadw yn yr ysbyty dros nos. Mae dau ddarlithydd y cwrs ymhlith y rhai sydd yn yr ysbyty. Mae pedwar o fyfyrwyr eraill wedi’u rhyddhau i westy lleol i ymuno gydag aelodau eraill y grŵp.

“Roedd yna ddamwain bws ac fe wnaeth dau o’r teithwyr (merched) farw yn safle’r ddamwain. Fe gafodd 20 ohonynt eu cludo i’r ysbyty ac fe gafodd un ei ddisgrifio fel bod mewn cyflwr difrifol wael,” meddai swyddog heddlu lleol, Leonard Hlathi.

“Fel y gallwch ddychmygu, rydym i gyd yn wedi ein syfrdanu ac mae ein meddyliau gyda’r myfyrwyr, eu teuluoedd a’r staff dan sylw. Rydan ni eisiau sicrhau i’n holl fyfyrwyr, eu rhieni yn ogystal â’u teuluoedd ein bod yn eu cefnogi yn y cyfnod anodd hwn, ” meddai Chris Ball, Prifathro Coleg Brooksby Melton.

Llun: Safle’r ddamwain angheuol yn Ne Affrica (AP Photo)