Mae crwner wedi dweud bydd marwolaeth Gemma Garn yn parhau’n ddirgelwch wrth iddo gofnodi dyfarniad agored.
Cafodd corff y fenyw 26 oed, a oedd yn awyddus i fod yn athrawes, ei ganfod chwe wythnos ar ôl iddi ddiflannu ar 18 Rhagfyr llynedd yn dilyn noswaith allan yn yfed gyda ffrindiau.
Roedd Gemma Garn allan yng Ngwmbrân yn dathlu dyrchafiad yn ei swydd yn Ysgol Uwchradd Croesyceiliog. Roedd hi wedi yfed a chymryd amffetamin yn ystod y nos.
Ar ddiwedd y nos cafodd Gemma Garn ffrae gydag un o’i ffrindiau dros ei chynlluniau i ymweld â’i chariad, Lewis Jeffrey.
Dywedodd Lewis Jeffrey bod Gemma Garn wedi ymweld ag ef yn ei gartref ond na wnaeth ond aros am awr.
Cafodd ei char ei ganfod ger Ail Groesfan Hafren y diwrnod canlynol a’i chorff yn yr Afon Hafren chwe wythnos yn ddiweddaraf gan bysgotwr.
Doedd Gemma Garn ddim wedi gadael nodyn yn y car na yn ei chartref yn nodi ei bwriad i gymryd ei bywyd ei hun.
Mae’r crwner David Bowen wedi dweud nad oes neb yn gwybod beth ddigwyddodd ar y bont y noswaith hynny.
“Mae un peth yn glir – does dim digon o dystiolaeth i fy ngwneud yn siŵr iddi gymryd bywyd ei hun,” meddai’r crwner.
Fe ychwanegodd David Bowen nad oedd digon o dystiolaeth hefyd i benderfynu bod Gemma Garn wedi disgyn i’r afon ar ôl mynd allan o’i char am awyr iach.