Dw i ar fy ffordd i’r meysydd gwyrdd yn Glastonbury; rhywle sydd yn llenwi f’enaid efo parch a gobaith. Maes lle na chaiff y cwmnïau sy’n cefnogi’r ŵyl hysbysebu arni; lle nad yw’r prif drefnydd, Michael Eavis, yn gwneud elw. Mae’r elw i gyd yn mynd i Greenpeace, Water Aid, ac Oxfam.

Er mwyn cael lle da, rhaid mynd yn gynnar. Mi es i i lawr ddydd Mawrth. Cyn diwedd y p’nawn, roedd yna ddegau o filoedd o bobol wedi cyrraedd. Pam bod cymaint ohonyn nhw eisio dod mor gynnar, a’r gerddoriaeth ddim yn cychwyn am ddau ddiwrnod? Maen nhw wedi dod i brofi ysbryd yr ŵyl, neu’r ‘Glastonbury vibe’. Dois i nabod fy nghymdogion – AJ o Sheffield, Mel ac Andy o Brestatyn, Emily o Ascot, a Phoebe o Norfolk. Pob un yn dod o ddiwylliant gwahanol.

Ar y Maes Gwyrdd, mae yna lot o deithwyr, New Age a Sipsiwn. Yma, mae ganddyn nhw siawns i ddangos i’r byd beth maen nhw yn medru ei greu, a’i gyfrannu. Mae’n rhoi pleser dwfn i fi ei weld. Mae yna nifer o grwpiau gwleidyddol yma, fel Occupy, CND, War on Want.

Celf amgen

Mae yna wedi bod nifer o newidiadau ers yr ŵyl ddiwethaf. Y peth cyntaf i ’nharo i ydi bod yna gymaint o liw. Mae o’n kalaedoscopic! Pan fydda i’n meddwl am yr Eisteddfod, heb law am y Pafiliwn, dw i’n meddwl am wair, cerrig, metel a gwyn.

Y galwad cyntaf ydi i weld criw ‘Creative Recycling’. Rydyn ni wedi bod yn gweld ein gilydd yn y meysydd gwyrdd ers blynyddoedd. Maen nhw yn defnyddio sbwriel sydd wedi cael ei gasglu o afon Ogwen i wneud blodau, byrddau, seddau, ac yn y blaen. Hoff un fi ydi’r broga. Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi bod yn datblygu enw da, a chael cefnogaeth y trefnwyr, ac yn y byd tu allan, yn Sioe Môn flwyddyn yma.

Y galwad nesaf ydi ‘Tê a Tost’, stondin dan ofal Bill ac Eirlys Davies o Lanfyrnach, Sir Benfro. Dw i wedi gweld yr arwydd ers o leiaf deng neu o bosib bymtheng mlynedd. Dw i wedi bod yn eu trin nhw fel y llysgenhadaeth pop-up y Gymru Gymraeg. Mae’n braf gwybod bod yna rywun ar y maes sy’n eich dallt chi. Mi wnes i basio stondin gwerthu bywyd llysieuol o’r enw ‘No Bones Jones’ – stondin Huw Jones o Drefaldwyn. Mi wnaeth o ennill Stondin Orau Glastonbury yn 2011. Mae canmol mawr iddo fo ac mae safon y gystadleuaeth yn ofnadwy o uchel. A ydi’r ffaith nad ydi o yn yr Eisteddfod yn golled i ni?



Angen celf “is”

Ar un stondin roeddech chi’n medru gwneud madarchen o bren. Dydyn nhw ddim yn dysgu chi sut i wneud o, ond gofyn chi i bedlo beic, sy’n troi’r turn, a bydd y perchennog yn ei cherfio. Rhaid pedlo fel y diawl am filltiroedd i orffen y gwaith. Dydach ddim yn isio gadael madarchen ar ei hanner, felly rhaid dal ati, ac mae’n rhoi lot o sbort i bobol o gwmpas. Dw i’n siŵr y byddai ’Steddfodwyr yn mwynhau rhywbeth fel hyn!

Mi wnaethon nhw losgi’r Phoenix nos Iau. Mi gychwynnodd y sioe efo jyglars tân a thanio’r goelcerth. Roedd yna dân gwyllt ar y ffenics, ac roedden ni medru gweld ei blu yn sgleinio. Mi wnaeth o greu pyramid o fflamau, efo silwét y ffenics. Yn y pen draw, mi wnaeth y ffenics ddisgyn yn y tân. Roedd o’n ymarfer gwych mewn pyrotechnics.

Mi ofynnodd yna gomedïwr am bobol i chwarae delwau efo fo. Mi wnaeth o wneud lot o jôcs gyda’r bobol. Roedd o’n lot o sbort, ac yn reit boblogaidd. Mae yna lot o hwyl yn y cae syrcas. Maen nhw’n bethau gwallgof ond syml, sy’n rhoi lot o hwyl i lot o bobol o bob oed. Dydy’r profiad ydach chi’n ei gael o flaen sgrin ddim yr un un â’r profiad ydach chi’n ei gael mewn cae efo cannoedd o bobol eraill. Does yna ddim sgript, maen nhw angen yn actio yn fyw trwy ymateb efo’r gynulleidfa

Rydan ni wedi dilyn celfyddyd ‘aruchel’ yn rhy hir. Mae yna le iddo fo, ond mae’r lefel mor uchel, fel bod angen gradd arnoch chi i’w ddeall o, neu o leiaf eglurhad. Ydi o’n deg dweud bod o mor dechnegol bod does yna ddim lot o spontaneity? Oni fedrech chi ddadlau bod angen mwy o gelfyddyd ‘isel’ ar yr Eisteddfod – perfformiadau byw, y byddai pawb o bob oed yn medru eu mwynhau?”

Lluniau Steve Mack Smith o Glastonbury ar ei gyfri’ Flickr /

http://www.flickr.com/photos/99028537@N06/