Dyma Dai Lingual yn dathlu’r 100fed fideo wedi ei lan lwytho i’r sianel deledu newydd ar-lein sy’n dathlu diwylliant Cymru o bob math – PAN CYMRU.
O ran y nifer o fideos sydd ar sianel Pan Cymru ar youtube, mae saethu a chasglu cant fideo yn hanner cyntaf y flwyddyn eleni yn llwyddiant o ran opus mae’n rhaid.
Sut felly mae mesur ansawdd yr hyn sydd ar y sianel (yng ngeiriau youtube eu hunain) hyd yn hyn?
Yn ogystal ag edrych ar nifer yr ymweliadau (yn naturiol, ymweliad a chyfweliad Miss Alex Jones o’r ‘One Show’ sydd ar frig y rhestr yna ‘Pan’ ddaeth i’r Adran Astudiaethau Ffilm a Theledu yn Aberystwyth), credaf taw’r llinyn mesur gorau yw hyd ymweliad y gwyliwr ar gyfartaledd.
Dyma felly’r rhestr yna, wedi ei seilio ar fideos fwyaf poblogaidd o’r gwahanol leoliadau sydd wedi eu harddangos ar y wefan:
1) El Parisa (gyda Dafydd Dobson ar gitâr) yn canu ‘Tonnau‘ yn Buffalo :
2) Dic Penderyn – Carreg Lafar yn fyw yng Nghwpwrdd Nansi.
4) Ail-lawlio’r iaith – protest Cymdeithas yr Iith, Aberystwyth
5) Gwerin Galicia, yn fyw yn y Cayo nos Lun!
6) Perfformiad clwb acwstig y Romilly (bob Nos Fawrth) ” Y ferch yn y brethyn cartref…”
7) Lloer-gan Gareth Bonello/ The Gentle Good yn The Moon Club (bydd yr Wyl Cardiffrinj Caerdydd yno eto nos Lun 21ain a nos Fawrth 22ain Hydref)
8) Y Deryn Pur gan Ser Pan Cymru #TwmpathMynIau Four Bars, Dempseys ( ar nos Iau cyntaf bob mis erbyn hyn)
9) ‘Glyn, Wyn a Phen Gwyn’ – sgwrs gyda’r cyfansoddwr Gareth Glyn
10) “Anghofiwch Tryweryn – Band y Ffug yn fyw yng Nghrymych” gyda diolch i’r trefnwyr lleol sef Mafon.
Dyna felly ddeg wedi eu dethol i chi o’r cant fideo sydd yna hyd yn hyn. Pe baech am gael cofnod gweledol a chlywedol o’ch sesiwn ceili lleol chi, croeso i chi nodi hynny isod.
Fel dwedodd yr athronydd Immanuel Kant ei hun:
“Mae ymrwymiad goleuedig i un diwylliant yn golygu ymrwymiad goleuedig i ddiwylliannau eraill”;
….gyda diolch i Sian Lloyd y Tywdd am ei llais peraidd
‘Drychwch adref am ddiwylliant felly, heb anghofio be sy mlan yng ngweddill y byd…
Yn ddigon ffodus, mae gweddill y byd (cerddorol) yn dod i Gymru cyn bo hir,
felly ni ddylai hynny fod yn rhy anodd..? Mae dyfodiad WOMEX yn prysur agosáu yn y calendr, prysuraf felly a threfniadau’r Ŵyl Ffrinj Caerdydd. Am y tro, hwyl yr Ŵyl!